Am lanast. Gollais i siocled poeth ar 'keyboard' y cyfrifiadur ac mae o'n cau gweithio. Pam na wnes i golli te yn lle siocled poeth? Rhaid glanhau'r llanast ond does gynnon ni ddim offeryn addas i droi'r sgriwiau bach bach ar y cefn. Dydy'r siop fawr yn y dref ddim yn gwerthu un chwaith. Roeddwn i ar fin archebu un pan ddarllenodd y gŵr rywbeth rhyfeddol yn rhifyn diweddaraf y cylchgwrawn MAC.
Gofynodd rhywun sut i lanhau tu mewn 'keyboard' digwydd bod. Ateb MAC oedd, "rinsiwch o mewn peiriant golchi llestri (!!!) heb sebon a gwres, yna tynnwch o allan a gadael iddo sychu'n naturiol (yr wyneb i lawr) am ddiwrnod neu ddau." Ydyn nhw o ddifrif? Rhaid bod nhw. A dyma rinsio'n 'keyboard' o dan y dwsel yn hytrach na yn y peiriant. Mae o'n sychu ar hyn o bryd. Gobeithio fod o'n iawn.
4 comments:
Dim ond croesi'r bysedd rwan !
Ydi, mae'n gweithio. Golchi allan mewn bath dwi'n gwneud pan bod rhaid. Fyswn i yn gadael o am fwy na dau ddiwrnod a lapio'r peth mewn tywel.
Fe gollais i laeth dros yr allweddell y llynedd. Yn anffodus, weithiodd y cyfrifiadur byth oddi ar hynny ac bu raid ifi brynu un newydd. Paid byth a rhoi cwpan ar bwys y cyfrifiadur - mae'n ormod o risg ond pob lwc a gobeithio y bydd dy gyfrifiadur yn gweithio.
Dw i wedi dysgu gwers. Dim ond gobeithio bydd yr allweddell (diolch am y gair hwn, Cer) yn iawn. Allweddell oedd o (neu hi,) dim gliniadur, felly mae'r cyfrifiadur yn ddianaf. Ol reit, mi wna i adael o am sbel.
Post a Comment