Doeddwn i ddim yn bwriadu darllen y nofel o'r blaen a dweud y gwir achos nad oedd disgrifiad y stori'n rhyw apelio ata i. (Dw i ddim yn sefyll arholiad chwaith!) Ond dw i wedi digwydd dod i nabod merch o Japan a wnaeth gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Y ffilm Un Nos Ola Leuad a gafodd ei dangos yn Japan ym 1992 a'i symbylu hi i ddechrau dysgu Cymraeg. Dyma ymddiddori yn y ffilm a'r nofel. A diolch i Linda am y benthyg.
O ran y nofel, ces i fy siomi ar yr ochr orau. Mae'r stori a'r Gymraeg yn llifo mor llyfn fel fy mod i wedi ei chael hi'n anodd rhoi'r llyfr i lawr. Byddai'n dda gen i pe bae hi wedi gorffen yn gadarnhaol, ond pwy ydw i i farnu un o'r clasuron Cymraeg?
2 comments:
Yn hynod o falch dy fod ti wedi eu mwynhau !
A diolch i ti. Mi wna i gyrru nhw'n ôl atat ti'n fuan.
Post a Comment