Mae yna westeion amrywiol bob tro a phwy oedd yn siarad â hi ddydd Mawrth ond Peredr y Saer o Amgueddfa Lechi yn Llanberis a dywysodd fi a'r grŵp bach o ymwelwyr o gwmpas y lle! Mae o a'i ferch yn mynd i Machu Picchu yn Peru ym mis Medi. (Roedd fy merch yno'r llynedd digwydd bod!)
Hefyd roedd yna Gymraes sy'n cadw cysylltiad gydag Americanes o Kentucky drwy'r post ers 64 o flynyddoedd. Rhaglen ddiddorol!
2 comments:
Wnes i glywed y rhaglen honno hefyd! Diddorol iawn clywed hanes y tad a merch sy'n mynd i Periw :)
Cyflwynwraig arbennig o dda yw Nia ynde
Cytuno'n llwyr!
Post a Comment