Tuesday, January 4, 2011

gair newydd

Roeddwn i wedi chwilio amdano fo o'r blaen heb lwyddiant. Gair digon cyffredin ydy o. Pam na fedra i ffeindio'r gair mewn geiriaduron felly? Wedi croeswirio ar y we neithiwr, dw i'n meddwl mod i wedi cael yr ateb; "annoying" byddwn ni'n dweud yma, ond "vexing" ydy'r gair ym Mhrydain, on'd ydy? Plagus - dyna fo.

4 comments:

neil wyn said...

Oeddat ti'n chwilio am air a^'r un ystyr ag 'annoying' neu ystyr y gair 'plagus'. Dwi wedi cael problemmau dod o hyd i air addas i ddefnyddio fel a ddefnydir 'annoying' yn saesneg (o bryd i'w gilydd clywir 'anoying' yn cropian mewn i'r Gymraeg!). Dwi'n cofio gofyn i gyfaill o Gymro'r cwestiwn yma a chael yr ymateb nad oes gair am annoying yn y gymraeg. Arghymelliad o oedd i ddweud bod rhywbeth yn 'mynd ar eich nerfau', sy'n digon teg am wn i, ond wedyn ffeindiais 'cythruddo' hefyd? Yn Saesneg prin ydwi'n clywed vexing, er cofiaf fy Mam yng nghyffraith yn ei defnyddio yn ddigon aml. Rhaid dweud dwi erioed wedi clywed y gair plagus yn yr iaith lafar, ond dwi'n eitha licio fo!

Emma Reese said...

Plagus yn ôl geiriadur Learnwelsh. Berf ydy 'cythruddo'; dw i isio ansoddair. Mae 'mynd ar eich nerfau' yn dda ond braidd yn llond ceg. Fedra i ddim ffeindio 'annoying' ond 'annoy' mewn geiriaduron. O'n i'n meddwl bod pawb yn dweud 'vexing' acw!

neil wyn said...

Mae Geiriadur yr Acadami'n rhoi 'Plagus' yn gyntaf hefyd, ac wedyn 'diflas, blin, annifyr'.
Mae'r Geiriadur Mawr yn diffinio'r ferf 'plagio' fel 'torment,tease'.
Y peth dwi yn clywed yn weddol aml i fynegi 'annoyance' yw 'codi gwrychyn',sy'n ffordd mwy idiomateg Cymraeg.. falle?!, er nad ydy o'n ansoddair chwaith wrth gwrs. Er hynny dwi wedi clywed pethau fel 'Mae o'n codi fy ngwrychyn' neu 'mae o'n codi gwrychyn rhywun', sy'n mynegi'r un teimlad. Gallai rhywun defnyddio 'gwylltio' hefyd am wn i, os mae rhywbeth yn andros o blagus:)

Emma Reese said...

codi gwrychyn - mae hyn yn swnio'n dda. Diolch, Neil. Ella nad oes ansoddair sy'n golygu 'annoying' wedi'r cwbl.