Thursday, January 6, 2011

o japan


Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn Japan ers dydd Sul diwethaf i helpu criw ffilm Gristnogol. (Paratoi bwyd iddyn nhw ydy eu gwaith pennaf a dweud y gwir! Ond maen nhw'n cael mynd yno o leiaf.) Dw i wedi clywed ganddi hi sawl tro'n adrodd eu hanes.

Maen nhw wrth eu boddau gyda'r bwyd (mewn tai bwyta rhad, dim y bwyd maen nhw'n eu paratoi.) Yn aml iawn mae yna arddangosfeydd o flaen tai bwyta i hysbysu pa fath o fwyd byddwch chi'n medru ei ddisgwyl cyn mynd i mewn (modelau cwyr.) Ac maen nhw'n edrych yn andros o dda.

2 comments:

Robert Humphries said...

Maen nhw'n edrych yn flasus iawn!

Emma Reese said...

Ydyn wir, faswn i ddim beio neb yn trio cael blas arnyn nhw pe na bai gwydr yno i'w atal!