Friday, May 17, 2013

diwedd cyfnod

Roedd seremoni raddio yn yr ysgol neithiwr. Graddiodd fy mab ifancaf efo'r chwe disgybl eraill. Dysgodd tri o fy mhlant iau yn yr ysgol fach honno, a ddoe oedd y diwrnod olaf i ni i gyd. Ysgol Gristnogol hyfryd gyda safon uchel ac athrawon ymroddedig - dw i a'r teulu'n ddiolchgar dros ben iddyn nhw. Wedi'r seremoni, roedd yna ddrama gan holl blant yr ysgol. 

Yfory mi adawa' i am Fenis. Bydda i'n dysgu Eidaleg ar gwrs am bythefnos, a cheisio nabod y lle cymaint â phosib. Sgrifenna' i am yr hanes wedi'r siwrnai. Felly hwyl am y tro.


1 comment:

DSO said...

Sori, does dim modd arall i fi sgwennu ata ti...ond mae'r BBC (Radio Cymru) yn chwilio heddiw am siaradwyr Cymraeg sy'n byw yn Oklahoma. Rwy wedi anfon ebost atat ti drwy Say Something In Welsh gyda'r cyferiad ebost, os ti'n fodlon siarad â nhw.