Saethwyd "yr olygfa gamlas" ar ochr Campo San Barnaba. Mae'r dŵr yn ofnadwy o fudur; does ryfedd bod Hepburn wedi dal clefyd y llygaid wedi gorfod syrthio ynddo. Welais ffiol goch sydd yn debyg i hon yn y ffair hen bethau yno un diwrnod.
Er gwaetha'r plot ystrydebol, dw i'n hoffi'r ffilm hon oherwydd dangosir Fenis yn annwyl iawn. Es i at lawer o lefydd saethwyd y ffilm ynddyn nhw, a rhyfeddu. Dilynais y ffordd a gymerwyd gan Hepburn at Basilica di San Marco. (Mae hi'n mynd at y cyfeiriad tu chwith ar y dechrau cofiwch; roedd y cyfarwyddwr eisiau dangos wyneb yr eglwys enwog ac wyneb Hepburn ar yr un pryd tybiwn i.) Roedd y clychau'n canu hyd yn oed, ond ces i fy siomi'n ofnadwy wrth weld prif adeilad Fenis dan hanner gorchudd oherwydd gwaith adfer.
No comments:
Post a Comment