Byddai cwpl yn dod i Fenis; bydden nhw'n sefyll ar Bont Accademia; bydden nhw'n sgrifennu eu henwau ar glo clap; bydden nhw'n ei osod ar reilen handi'r ganllaw; bydden nhw'n taflu'r goriad yn y gamlas o danyn nhw; bydden nhw'n cerdded i ffwrdd wedi sicrhau eu cariad. Byddai swyddogion y dref yn dod at y bont; bydden nhw'n torri'r clo clap ynghyd â'r miloedd eraill sydd yn pwyso'r bont; bydden nhw'n eu casglu a cherdded i ffwrdd efo llond bag o fetalau. Byddai cwpl arall yn dod i Fenis.....
No comments:
Post a Comment