Monday, June 10, 2013
fenis 4 - dosbarth cyntaf
Dechreuwyd y cwrs Eidaleg y bore wedyn. Mae'r ysgol fach yn Campo San Stin yn agos iawn - dim ond pum munud oddi wrth y llety - ond cymerodd dri diwrnod cyn i mi fedru cyrraedd yno heb golli fy ffordd. Roedd yna ddau arall yn fy nosbarth, un o UDA a'r llall o'r DU a ddysgwyd gan ddau athro ardderchog. Er fy mod i'n dysgu Eidaleg ar fy mhen fy hun ers dwy flynedd, roedd dyna'r tro cyntaf i mi gael sgyrsiau Eidaleg o ddifri. Gan fod y dysgwyr eraill yn brofiadol, roedd yn dipyn o her i mi. Roedd pawb yn glên iawn fodd bynnag, ac aeth popeth yn iawn.
llun: Campo San Stin, "maes" bach ger Eglwys Frari sydd yn un o'r adeiladau mwyaf yn Fenis
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment