Friday, July 19, 2013

fenis 43 - ffarwelio


Daeth y bore i mi adael Fenis. Codais yn gynnar i ddal y bws i'r maes awyr, a dynes y llety hefyd er mwyn ffarwelio â fi. Y hi a wnaeth check-in yn ogystal â phrynu tocyn bws drosta i'r noson gynt. Caeais y drws blaen trwm am y tro olaf. Cerddais ychydig a throi'n ôl; cododd hi law ata i ar y balconi. Llusgais fy nghês dros bontydd bach i Piazzale Roma. Wrth i'r bws yrru ar Ponte della Libertà tuag at y tir mawr, roeddwn i'n syllu drwy'r ffenestr ar Fenis sydd yn pellhau.

Gwireddwyd fy mreuddwyd i fynd i Fenis. Gwelais y golygfeydd a'r adeiladau rhyfeddol a ddarllenais amdanyn nhw. Cerddais y llwybrau culion; clywais sŵn bach mae gondola yn ei wneud wrth iddo hwylio'n esmwyth ar gamlesi; ces i flas ar Spritz a Bellini. Y peth mwyaf gwerthfawr i mi, fodd bynnag, oedd y cyfleoedd i gyfarfod a nabod y bobl yno - pobl yr ysgol Eidaleg, dynes y llety a'r ffrind o Brescia. Y nhw a wnaeth fy siwrnai mor hyfryd. 


2 comments:

Siân said...

Wedi mwynhau'r ymweliad â Fenis yn fawr iawn.
Wedi codi chwant arna i fynd yno nawr.

Diolch!

Emma Reese said...

Diolch i tithau Siân am dy eiriau clên.