Monday, April 7, 2014

photo booth

Dw i newydd ddarganfod peth hwylus ar fy MAC Book (er ei fod o yma drwy'r amser.) Photo Booth ydy o. Roeddwn i'n meddwl mai ond tynnu lluniau a wnaeth. Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod o'n tynnu fideo hefyd. Awgrymodd Alberto i recordio'ch hun yn siarad Eidaleg bob mis i weld sut dach chi'n symud ymlaen. Roeddwn i'n arfer recordio fy hun yn siarad Cymraeg ar recordydd tâp (swnio'n hynafol!) o'r blaen. Yn ddiweddarach roeddwn i'n defnyddio Garage Band. Mae'n gas gen i glywed fy hun heb sôn am weld fy hun ar fideo, ond dw i'n gwybod bod hyn yn fodd effeithiol er mwyn gwella unrhyw iaith dach chi'n ei dysgu.

3 comments:

Siân said...
This comment has been removed by the author.
Siân said...

Syniad da! Rwy newydd ddechrau dysgu Sbaeneg. Falle rof i gynnig arni. Ond mae'n gas gen i weld a chlywed fy hunan hefyd!

Emma Reese said...

Pob hwyl efo dy Sbaeneg.