Saturday, September 26, 2026

bloedd solomon

Rhoddodd Solomon "phryd ar astudio a chwilio, trwy ddoethineb, y cyfan sy'n digwydd dan y nef." Ni chadwodd draw "oddi wrth unrhyw beth a chwenychai ei lygaid, nac yn troi ymaith oddi wrth unrhyw bleser." 

Yn y diwedd, fodd bynnag, roedd o'n sylweddoli bod "yr un peth a ddigwydd iddo ac i'r ffôl: marw y mae'r doeth fel y ffôl." Dyna pam roedd o'n gweiddi yn yr Ysgrythur, “gwagedd llwyr yw'r cyfan.”


Friday, September 25, 2026

gwers

"Pan heneiddiodd Solomon, hudodd ei wragedd ef i ddilyn duwiau estron, ac nid oedd ei galon yn llwyr gyda'r ARGLWYDD ei Dduw, fel y bu calon ei dad Dafydd..... Gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD...."

Er ei fod wedi cael ei fendithio'n fawr gan Dduw, trodd Solomon ei gefn arno Fo wrth iddo heneiddio. Gwers i ni yma; rhaid i ni fod yn wyliadwrus, a ffyddlon hyd at y diwedd.

"Felly, bydded i'r sawl sy'n tybio ei fod yn sefyll, wylio rhag iddo syrthio."

Wednesday, September 23, 2026

oerni a gwres, haf a gaeaf

Roedd yr haf yn arbennig o boeth eleni, ond mae o'n dechrau cilio o'r diwedd. Mae'n wych gweld (a theimlo) y tymheredd yn gostwng o 90au i 80au. Cyn hir, fodd bynnag, byddwn ni'n crynu o oerfel.

“Tra pery'r ddaear, ni pheidia pryd hau a medi, oerni a gwres, haf a gaeaf, dydd a nos," meddai'r Arglwydd Duw.

Tuesday, September 22, 2026

y cwestiwn pwysicaf

"Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Oherwydd beth a all rhywun ei roi'n gyfnewid am ei fywyd?" gobynnodd Iesu.

Wrth i chi heneiddio, meddyliwch hyn o ddifri. Dych chi ddim yn gwybod pryd byddwch chi'n marw.

Monday, September 21, 2026

angen gwaed

Mae'n ddiwrnod mwyaf sanctaidd yn Iddewiaeth ydy hi heddiw, sef Yom Kippur. Mae nifer o Iddewon yn gweddïo, ymprydio a gwneud pethau dros achosion da - hyn i gyd er mwyn cael maddeuant gan Dduw am eu pechodau yn y flwyddyn flaenorol. Yn ôl gair Duw (eu hysgrythur,) fodd bynnag, mae angen gwaed, a gwaed un heb bechod er mwyn cael maddeuant. Dw i'n gweddïo bob dydd y byddan nhw'n dod i ganfod mai ond Iesu, eu Meseia eu hunan, a all wneud hyn.

Saturday, September 19, 2026

paentiad newydd



Cafodd fy merch hynaf hoe fach rhag celf am flwyddyn wedi cael ei babi cyntaf. Treuliodd hi a'i theulu'r haf yn Oklahoma, ac maen nhw newydd ddychwelyd i Japan. O dipyn i beth daeth ysbrydoliaeth yn ôl. A dyma hi'n gorffen (rhwng newid a bwydo ei babi) paentiad newydd.

Friday, September 18, 2026

fy mam

Wedi cael niwmonia, a chael ei chludo i'r ysbyty ar frys, roedd fy mam wedi gwella, a dychwelyd i'r cartref henoed. Yn ôl fy mrawd a ymwelodd â hi ddoe, mae hi'n medru siarad yn normal, ac yn ymddangos yn hollol iawn. Bendith Duw!

Wednesday, September 16, 2026

lle? sut?

Maen nhw'n dweud, "Heddwch! Heddwch!’—ac nid oes heddwch," 

- Lle cewch chi ddarganfod yr heddwch go iawn?

“Gwagedd llwyr,” meddai'r Pregethwr, “gwagedd llwyr yw'r cyfan.”
"Pa elw sydd i neb yn ei holl lafur, wrth iddo ymlafnio dan yr haul?"

- Sut cewch chi ddarganfod ystyr eich bywyd?

yr unig ateb: Iesu Grist

Tuesday, September 15, 2026

pwy ydy Iesu?

Ni alwodd Iesu ei hun yn un athro ysbrydol ymysg llawer. Dwedodd, “Myfi yw’r ffordd, y gwirionedd a’r bywyd.” Mae Cristnogaeth yn sefyll ar bwy ydy o. 
- Biblical Creation

Monday, September 14, 2026

peth melysach na mêl

"Fy mab, bwyta fêl, oherwydd y mae'n dda, ac y mae diliau mêl yn felys i'th enau," meddai'r Brenin Solomon.

Ond mae peth melysach na mêl.

"Felly y mae deall a doethineb i'th fywyd; os cei hwy, yna y mae iti ddyfodol, ac ni thorrir ymaith dy obaith," ychwanegodd.

A lle cei deall a doethineb? 
- yn Air Duw

Friday, September 11, 2026

y dyn doethaf

Y dyn doethaf oedd y Brenin Solomon; adawodd gynifer o ddiarhebion doeth. Roddwyd ei ddoethineb gan Dduw. Ac eto, roedd ei ddiwedd yn ofnadwy. Dylai fo fod wedi gwrando ar ei ddiarhebion ei hun. Dw i newydd wybod bod yna enw ar gyfer y peth felly, sef Paradocs Solomon.

Wednesday, September 9, 2026

fy amcan

"Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, gweithiwch â'ch holl galon, fel i'r Arglwydd, ac nid i neb arall."
"Gwasanaethwch Grist, eich Meistr chwi."

Hyn ydy fy amcan beunyddiol.

Tuesday, September 8, 2026

profi'r dihareb

"Nid Iesu Grist ydy'r ffordd i'r gwirionedd," dwedodd yr ymgeisydd Democrataidd yn Senedd Texas. "Gall Allah a llwybrau crefyddol eraill arwain pobl at yr un gwirionedd dwyfol," ychwanegodd.

Mae o'n profi'r dihareb a bostiais ddoe:
"Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union, ond sy'n arwain i farwolaeth yn ei diwedd."

Beth ddwedodd Iesu Grist?
"Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi."

Monday, September 7, 2026

ffordd union?

Dywedir yn ddiweddar bod gan bawb ei wirionedd. Ydy hynny'n iawn fodd bynnag? Nid felly yn ôl doethineb Duw.

"Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union, ond sy'n arwain i farwolaeth yn ei diwedd." Diarhebion 14:12

Saturday, September 5, 2026

Gair Duw

"Yn union fel mae pawb yn mynd i farw un waith, a wynebu barn ar ôl hynny, buodd y Meseia farw un waith yn aberth, a chario pechodau llawer iawn o bobl iddyn nhw gael eu maddau." - Beibl.net