Tuesday, February 28, 2017
mam
Dynes hardd oedd hi, fy mam. Dyma hi efo fi amser maith yn ôl, yn edrych fel actores. Roedd hi'n gweithio'n galed drwy gydol ei hoes. Mae hi'n dal i fwrw ymlaen er arafach mae hi, a hithau bron i 95 oed.
Monday, February 27, 2017
hanami sydyn
Mae fy mam wedi gwella'n sylweddol ar ôl ei chodwm diwethaf. Fe wnaeth hanami sydyn heb fwyd o flaen ei fflat efo cymorth fy merch ddyddiau'n ôl. (Mae'r ceirios hwnnw'n blodeuo'n gynt na'r rhywogaeth arall.) Mae'n anhygoel gan ystyried ei hoedran - 95 oed bron.
Saturday, February 25, 2017
twrnamaint
Diwrnod twrnamaint pêl-droed ydy hi heddiw! Daeth sawl tîm ysgol uwchradd yn yr ardal i'n tref ni i chwarae gemau trwy'r dydd. Es i ynghyd â'r teulu i weld fy mab ifancaf yn chwarae yn y gêm gyntaf am 9 o'r gloch. (Roedd yn ofnadwy o oer!) Enillodd ein hysgol ni o 4-0. Fe wnaeth fy mab yn dda iawn fel amddiffynnwr. Mae o'n chwarae'r gêm olaf ar hyn o bryd.
Friday, February 24, 2017
rhy gynnar
Mae tiwlipau Leanne newydd ymddangos eu pennau wrth wthio eu hunain drwy'r dail sych trwchus. Ydy, mae hi'n gynnes y dyddiau hyn fel gwanwyn. Ond mae hi'n rhy gynnar! Bydd y tymheredd yn disgyn i 25F/-4C nos fory. Gobeithio byddan nhw'n iawn ac yn blodeuo'n braf eleni.
Thursday, February 23, 2017
selfie newydd
Na fydd angen breichiau hirion na ffyn er mwyn gwneud selfie o fis Mehefin ymlaen. Dyfeisiwyd clawr ffôn symudol sydd yn hedfan, gan bwy ond cwmni o Israel wrth gwrs. Mae pentwr o ddyfeisiadau'n dod o'r wlad honno bob amser er gwaethaf pawb a phopeth. Byddwn i'n hoffi iddyn nhw ddyfeisio eli wyneb i ddileu crychau!
Wednesday, February 22, 2017
gwin trump
Ceisiodd grŵp merched cenedlaethol foicotio Wegmans oherwydd bod hi'n gwerthu Gwin Trump. (Prynodd Donald Trump y gwindŷ a oedd ar fin methu, a'i droi'n fusnes llwyddiannus.) Gwrthododd y siop i blygu, e dal i'w gwerthu. Pan aeth y gair o gwmpas Talaith Virginia, dechreuodd y gwin werthu'n wallgof, ac mae'r deg siop i gyd yn y dalaeth wedi gwerthu allan yn llwyr bellach. Mae'n hen bryd i'r rhyddfrydwyr ddysgu'r wers.
Tuesday, February 21, 2017
cefnogaeth
Monday, February 20, 2017
hwrê nikki!
"Dw i yma er mwyn pwysleisio cefnogaeth gadarn America i Israel," meddai Nikki Haley. Mae hi'n sefyll yn ddewr ers cychwyn fel llysgennad America i Genhedloedd Unedig, yn amddiffyn a chefnogi Israel yn erbyn llu o gynrychiolwyr eraill yn ffau'r llewod. Go dda ti, Nikki! Dw i'n siŵr ei bod hi'n cael ei chasáu ganddyn nhw'n barod. Dw i'n gweddïo'n daer drosti hi hefyd.
Saturday, February 18, 2017
deutschland
Dw i newydd ddysgu sut i ddweud "Almaen" yn Almaeneg - Deutschland. Y peth diddorol ydy'r ynganiad. ドイツ(doitsu) ydy o yn Japaneg, yr hanner cyntaf o'r gair Almaeneg. Roeddwn i'n gwylio (efo cymorth is-deitl Saesneg) Geert Wilders yn annerch torf wladgarol yn yr Almaen. Populist arall o'r Iseldiroedd sydd wrthi'n ennill yr etholiad er mwyn gwarchod ei wlad rhag dinistrio. Gobeithio y bydd o'n llwyddo.
Friday, February 17, 2017
jerwsalem
Cafodd Jerwsalem ei sefydlu fel prif ddinas Israel tri mil o flynyddoedd yn ôl gan y Brenin Dafydd. Er bod y deml wedi cael ei chwalu ddwywaith wedyn, a chafodd y bobl ei gwasgaru, mae Jerwsalem wedi bod yng nghalon pob Iddew drwy'r byd drwy'r canrifoedd. Mae'r fideo hwn yn esbonio'n glir beth ydy'r gwirionedd a beth sydd ddim amdani hi.
Thursday, February 16, 2017
ffrind go iawn
"Gallwn roi ochenaid o ryddhad. Ffrind ydy'r Arlywydd, un go iawn," meddai Boaz Bismwth o Israel Hayom wedi clywed beth ddwedodd yr Arlywydd Trump o blaen y wasg ddoe. Ydy wir. Ac un medrus hefyd sydd yn gwybod sut i ennill cytundebau gwych. Mae o wedi profi ei hun tro ar ôl tro ers iddo gychwyn llai na mis yn ôl. Bydd y perthynas rhwng America ac Israel yn ffantastig - y gorau yn hanes Israel. Mae hyn yn gwylltio rhai yn anffodus, ond dyna fo.
Wednesday, February 15, 2017
dwy wlad
Roeddwn i'n disgwyl am y diwrnod hwn yn eiddgar ynghyd â nifer o bobl wladgarol; heddiw cwrddodd yr Arlywydd Trump â'r Prif Weinidog Netanyahu yn Nhŷ Gwyn am y tro cyntaf yn swyddogol. Mae gan Israel ffrind go iawn yn yr Arlywydd. Edrycha' i ymlaen at weld sut bydd y ddwy wlad yn cydweithio'n agos o hyn ymlaen. Ceith America ei bendithio drwy fendithio Israel.
Tuesday, February 14, 2017
12:00:30
12:00:30, Ionawr 20, 2017 (diwrnod Inauguration) - hwn oedd yr amser roedd Mr. Trump yn bwriadu symud Llysgenhadaeth America i Jerwsalem, yn ôl Bob Corker, Cadeirydd Pwyllgor Cysylltiadau Tramor. Wnaeth o ddim serch hynny, nid oherwydd bod ofn ganddo ar y gwrthwynebiad chwyrn gan y gwledydd Arabaidd, ond oherwydd bod Israel ei hun yn amharod i'w gelyniaethu. Mae'r Arlywydd yn siarad efo'r Prif Weinidog Netanyahu yfory, a bydd y Senedd yn cadarnhau enwebiad David Freedman yn Llysgennad i Israel ddydd Iau. Gobeithio y bydd popeth yn symud yn gyflym wedyn.
Monday, February 13, 2017
gwobr am ddewrder
Mae'r rhan fwyaf o Hollywood yn erbyn yr Arlywydd Trump yn chwyrn. Mae yna un gantores, fodd bynnag, sydd ddim yn ofni bod yn wahanol a mynegi ei chefnogaeth drosto fo. Aeth Joy Villa i seremoni Grammy neithiwr; dadwisgodd ei mantell wen er mwyn dangos ei ffrog orwych dani hi. Cafodd bentwr o negeseuon cas gan y rhyddfrydwyr, ond cafodd wobr fach am ei dewrder hefyd gan gefnogwyr yr Arlywydd Trump - ffrwydrodd gwerthiant ei chân gan 18,106,633% mewn oriau.
Saturday, February 11, 2017
heb air
Friday, February 10, 2017
codi wal
Maen nhw eisiau codi wal er mwyn amddiffyn y bobl a'r pethau gwerthfawr tu mewn rhag terfysgwyr. Cam doeth ac ymarferol. Na, dw i ddim yn sôn am wal yr Arlywydd Trump ar y ffin ddeheuol. Sôn am wal gwydr mae Ffrainc yn mynd i godi o gwmpas Twr Eiffel dw i. Wedi'r cwbl, codwyd waliau o gwmpas pob castell, Palas Buckingham, y Fatican, Tŷ Gwyn, tŷ Hillary, tŷ Obama, ayyb.
Thursday, February 9, 2017
cŵn glas
Cafodd Jeff Sessions ei gadarnhau fel Atwrnai Cyffredinol o'r diwedd. Buddugoliaeth arall gan yr Arlywydd Trump er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn (arall) gan y Democratiaid. Pleidleisiodd yr holl weriniaethwyr "ie" y tro 'ma gan gynnwys y ddwy a fradychodd eu parti yn ddiweddar. Ymysg yr "ie" coch, fodd bynnag, mae yna un las. Joe Manchin ydy o - Democrat o West Verginia, un o Gŵn Glas sydd gan olwg geidwadol er mai Democratiaid ydyn nhw. Mae Manchin yn cefnogi'r Arlywydd Trump er ei fod o'n cael ei farni'n hallt gan y Democratiaid eraill. Call iawn. Dw i'n siŵr y bydd ei etholwyr yn cofio hyn pan ddaw'r etholiad nesaf.
Wednesday, February 8, 2017
mewn ciw
Tuesday, February 7, 2017
dewis da
Monday, February 6, 2017
dysgu ffrangeg
Saturday, February 4, 2017
cyflawni'r addewidion
Cael gwared ar ddau reoliad cyn pasio un newydd - dyma un o'r addewidion a wnaeth yr Arlywydd Trump yn ystod yr ymgyrch. Gwneud hyn mae o ers cychwyn yn swyddogol. Mae gan ŵr fy merch hynaf fusnes bach ac yn brwydro ers blynyddoedd dan ormod o reoliadau. Dwedodd hi wrtha i'n gyffrous ddoe fod yr Arlywydd Trump newydd gael gwared ar y rheoliad a oedd yn rhwystro busnes ei gŵr. Mae o wrthi'n cyflawni ei addewidion eraill.
Friday, February 3, 2017
t-rex
Thursday, February 2, 2017
ffefryn newydd
Wednesday, February 1, 2017
rhagrith
Mae protest yn erbyn gwaharddiad yr Arlywydd Trump ar fewnfudo'n parhau'n ffyrnig, yn America a thramor. Ddwedodd y bobl hynny ddim byd yn erbyn Obama pan waharddodd bobl o Irac a Ciwba. Dydyn nhw ddim yn condemnio'r 16 gwlad sydd yn gwahardd y bobl sydd gan basbort Israel. Gwahoddodd Maer Llundain sydd yn prysur gondemnio'r Arlywydd Trump, bwysigion o 11 gwlad allan o'r 16 i'w barti. Dw i'n siŵr bod pawb sydd yn protestio yn erbyn y gorchymyn hwnnw'n cloi drysau a ffenestri eu tai yn y nos nid oherwydd bod nhw'n casáu'r bobl tu allan, ond oherwydd bod nhw eisiau amddiffyn y rhai tu mewn.
Subscribe to:
Posts (Atom)