Tuesday, April 21, 2026

addewid

"Yn y byd fe gewch orthrymder," meddai Iesu.

Wir, mae'n amhosib osgoi gorthrymder yn y byd, ond does dim rhaid colli eich calonnau os ydych chi'n credu yn Iesu, oherwydd ei fod o wedi addo:

"ond codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu'r byd."
"Yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.”

Hefyd:

"Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi;
paid â dychryn, myfi yw dy Dduw.
Cryfhaf di a'th nerthu,
cynhaliaf di â llaw dde orchfygol."


No comments: