Wedi blino'n lân. Yr hyn roeddwn i'n meddwl amdano tra oeddwn i'n hwfro oedd - panad! Paned Gymreig hefo llymaid o lefrith. A dw i'n ei fwynhau o wrth sgwennu hyn. :)
Tuesday, November 10, 2009
barod am y gaeaf
Amser cael lanhau'r simnai mae hi rwan er bod hi'n dal yn gynnes. Does wybod pryd bydd hi'n troi'n aeafol. Felly daeth yr hogia arferol i wneud y gwaith. Roedd yn cymryd yn hirach nag arfer. Rhaid bod y simnai'n fwy budr. Ar ôl iddyn nhw fynd, roedd y gwaith hwfro'n fy nisgwyl. Hyn ar ôl yr holl waith cribino'n ddiweddar! Doedd gen i ddim dewis ond bwrw ymlaen.
Sunday, November 8, 2009
cribino!

Mae'r mab hynaf i ffwrdd. Mae'r gwˆr yn brysur dros ben. Mae gan y ferch hyˆn gefn tost. Mae gan y merched iau asthma.
Rhaid gwneud y gwaith cribino wedi i'r cymdogion gribino eu gerddi blaen yn ddiweddar. Faswn i ddim eisiau i'r dail yn ein gardd ni gael eu chwythu i'w gerddi taclus.
Felly dim ond fi a'r mab fenga sydd ar gael i wneud y gwaith. Roedden ni'n gweithio am ryw awr neithiwr yn y tywyllwch ac awr arall prynhawn yma. Basai'n ormod i ni'n ddau gribino'r ardd gyfan. Dim ond lle mwyaf amlwg iddi edrych yn ddigon taclus cribinon ni. Dw i wedi ymlâdd ond yn fodlon bod y gwaith wedi gorffen (am eleni!)
Saturday, November 7, 2009
collddail
Dw i newydd ddod ar draws y gair hwn wrth ddarllen papur bro Dyffryn Ogwen. Collddail - un o eiriau Cymraeg hunanesboniadol. Sut ydw i fod i wybod sut i ynganu heb sôn am beth ydy ystyr y gair hwn - deciduous?
Thursday, November 5, 2009
panad

Roedd y te a ges i yng Nghymru'n hynod o dda bob tro. Un o'r pethau dw i'n ei golli ydy o.
Fedrwn i ddim dioddef y te a werthir yn y siopau yma mwyach, a dyma yrru e-bost at Carol yn Llanberis yn gofyn pa fath o de maen nhw'n ei yfed. Paned Gymreig wrth gwrs, a dyma brynu rhai ar lein gan gwmni o Texas.
Mae o newydd gyrraedd a ches i banad hyfryd wrth ddarllen y pob gair Cymraeg ar y pecyn.
Wednesday, November 4, 2009
y fflam olympaidd
Wedi clywed gan Linda am y Fflam Olympaidd a ddaeth drwy'r dref Comox, dyma feddwl sut basai'n teithio dros y môr. Ar y llong efallai. Beth fasai'n ddigwydd yn y nos? Tybiodd fy ngwr mai cael ei ddiffodd yn ystod y nos a chael ei gynnau'r bore wedyn rhag achosi tân basai fo! Na, fedrwn i ddim credu hynny. Y fflam arbennig ydy o sy'n cael ei gynnau yng Ngroeg.
Dyma'r ateb.
- awyren arbennig, criw o osgorddion i amddiffyn y fflam dydd a nos! Am ofal!
Tuesday, November 3, 2009
tawelwch yn Llanberis
Er bod y caffi newydd ar gopa'r Wyddfa wedi dod â nifer mawr o ymwelwyr i Lanberis yn rhoi hwb i economi'r dref, efallai nad ydy'r trigolion yn medru teimlo rhywfaint o ryddhad wedi i'r caffi gau ei ddrws dros y gaeaf.
Ymysg yr holl brysurdeb yn y dref, roedd y trên bach a oedd yn cario'r ymwelwyr a oedd am weld y caffi newydd yn rhedeg bob hanner awr. Roedd o'n chwydu mwg du o'i gwmpas wrth ddringo a disgyn y mynydd. Roedd yr arogl mor ofnadwy fel fy mod i'n teimlo'n sâl a phenderfynais beidio mynd ar y trên wedi'r cwbl. Mae yna nifer o dai o gwmpas yr orsaf. Dw i'n teimlo dros y bobl sy'n byw yno. Tybed oes yna gynllun i wneud y trên yn drydanol?
Sunday, November 1, 2009
'wedge formation'
Subscribe to:
Posts (Atom)
