Monday, April 11, 2022

ailgylchu glo


Roeddwn i'n darganfod modd i ailgylchu'r glo a oedd ar ôl yn ein llosgwr logiau ni. Maluais fo'n fân, a dw i'n ei ddefnyddio fel powdwr aeliau. Mae'n gweithio'n dda -  rhad ac yn ddim a hollol naturiol!

Saturday, April 9, 2022

katfish kitchen

Tro Katfish Kitchen oedd hi ddoe. Er bod ni wedi cyrraedd cyn 5 o'r gloch, roedd nifer o gwsmeriaid yno'n barod. Ac erbyn i'n bwyd ni ddod, roedd y lle'n llawn dop. Mae'n amlwg mai un o dai bwyta mwyaf poblogaidd y dref ydy o, gan yr Heddlu hefyd. Dewisais i fy ffefryn (cyw Iâr wedi'i grilio ) tra bod y gŵr yn cael pysgod wedi'i grilio.

Friday, April 8, 2022

pregethau eidaleg


Des i ar draws cyfres o fideo byr gan weinidog Eidalaidd. Bydd o'n darllen adnodau o'r Beibl, wedyn rhoi sylwadau arnyn nhw. Mae o'n siarad yn araf ac yn glir fel bydd yn hawdd i mi ei ddeall. Mae ganddo bwynt clir yn ei bregeth fer bob tro. Braf gweld Alpau Eidalaidd yn y cefndir hefyd. (Credwch neu beidio mae o'n  ymdebygu i fy niweddar ewythr pan oedd o'n ifanc!)

Wednesday, April 6, 2022

y canlyniad


Enillodd yr ymgeisydd a oedden ni'n ei chefnogi! Cafodd hi 60 y cant o'r pleidleisiau. Mae hi'n frwdfrydig gweithio dros blant yr ysgolion yn y dref. Llongyfarchiadau mawr a phob bendith i Mrs. C!

Tuesday, April 5, 2022

etholiad lleol 2

Fel arfer na ceith etholiadau lleol fawr o sylw gan ran fwyaf o drigolion. 16 pleidlais a benderfynodd y canlyniad yn y gorffennol er bod 16,000 o bobl yn byw yn y dref yma. Wrth i'r byd fynd mwy gwallgof byth bob dydd, mae'n hynod o bwysig i'r bobl gyda synnwyr cyffredin geisio cymryd rhan yn y wleidyddiaeth cymaint â bo modd. Mae'r gŵr yn weithgar dros ben yn y maes hwnnw ynghyd â rhai eraill. Dyma fi'n gwneud peth bach - creu arwydd i atgoffa'r cymdogion i bleidleisio heddiw. 

Monday, April 4, 2022

etholiad lleol

Etholiad bwrdd yr ysgol mae hi yfory. Mae dau ymgeisydd yn fy ardal i; cyn athrawes ardderchog yn yr ysgol uwchradd ydy un ohonyn nhw. Cafodd dri o fy mhlant eu hyddysg ganddi. Wedi ymddeol o'i gyrfa hir, mae hi'n frwdfrydig gweithio ar fwrdd yr ysgol rŵan. Mae'r gŵr wedi bod wrthi'n ei chefnogi fel "rheolwr ymgyrch" answyddogol ers misoedd, yn siarad gyda'i ffrindiau drosti hi, a chanfasio o ddrws i ddrws yn y gymdogaeth. Fel ymgyrch olaf, aeth i ddosbarthu nodiadau atgoffa'r bore 'ma yn y glaw. 

Saturday, April 2, 2022

ymdopi'r chwyddiant

Ces i a'r gŵr swper yn Napoli's neithiwr. Dewisais ravioli sbigoglys; cig llo parmigiana iddo fo. Roedd cyfaint ei spaghetti'n fach iawn, llawer llai nag arfer. Efallai mai dyna sut mae'r perchennog yn ceisio ymdopi'r chwyddiant. Roedd yn flasus fodd bynnag yn ôl y gŵr.