Tuesday, October 13, 2009

pecyn cadarn


Ces i becyn gan gwales.com heddiw. Prynais Hanes Cymru gan J.G. Jones, a dau gylchgrawn. Mae gen i lyfrau hanes Cymru yn Saesneg ond dw i eisiau darllen yn Gymraeg. 

Maen nhw'n gwneud y gwaith lapio llyfrau'n drylwyr ar y naw bob tro. Mae'r pecyn yn fwy cadarn fyth y tro hwn y fel mae hyd yn oed y cylchgronau tenau wedi cyrraedd yn gyflwr perffaith. Sbïwch ar yr haenau o'r pacin! Diolch yn fawr i bwy bynnag a wnaeth y gwaith.

2 comments:

neil wyn said...

Dwi wrth fy modd yn derbyn pecynau o lyfrau gan Gwales, ti'n llygad dy le, mae'r gwaith lapio'n ardderchog (hyd yn oed i gyfeiriadau ochr yma i'r Iwerydd!). Yn anffodus na fydda i'n ei disgwyl un eto am sbel go hir, am fy mod i'n teithio'n araf bach trwy hanes y byd canu poblogaidd Cymraeg rhwng 1980-2000.'Ble Wyt ti Rhwng' gan Hefin Wyn, yw cyfrol swmpus efo dros pedwar cant o dudalennau, ond er hynny'n darllenadwy iawn ac llyfr sydd wedi ei sgwennu'n da. Gobeithio i'w orffen cyn y dolig beth bynnag!!

Emma Reese said...

Da iawn ti. Dw i'n meddwl bod yn syniad da darllen hanes neu beth bynnag fod gynnoch chi ddiddordeb ynddo yn Gymraeg. Mi gewch chi ddysgu'r ffeithiau a'r iaith yr un pryd.