Saturday, October 31, 2009

ras 5 cilomedr



Mae'n braf (am newid) heddiw. Cynhaliwyd ras bum cilomedr flynyddol a noddwyd gan Adran Optometreg. Roedd fy ngwr yn rhedeg yn y ras gyda'n mab hynaf ers blynyddoedd ond mae'r olaf wedi symud i ffwrdd i fynd i'r brifysgol bellach a doedd o ddim yn medru dod yn ôl y tro hwn. 

Ymunodd rhyw 170 o bobl y dref, hen ac ifanc. Roedd y rhan fwyaf yn rhedeg ac roedd y lleill yn cerdded. Cael hwyl yn hytrach na chystadlu ydy amcan y ras.

Roedd yna declyn newydd, sef sglodyn electronig. Clymodd pob rhedwr un wrth ei esgid i gofnodi ei amser gorffen. Tynnwyd o ar ôl y ras. Hwylus iawn.

2 comments:

Linda said...

Llongyfarchiadau i dy wr di am redeg y ras ! Mae'r tywydd yn edrych yn ardderchog.

Emma Reese said...

Oedd, roedd hi'n braf iawn ac mae'n dal i fod.