Sunday, October 11, 2009

wyneb newydd

Dechreuodd rhywun newydd ddod i'n heglwys ni. Dennis, athro hanes Ewrop yn y brifysgol leol ydy o. Mae o'n dod o Rwsia ac yn medru pump o ieithoedd. Cafodd fy ngwr gyfle i dreulio amser gyda fo ddoe ac roeddwn i'n awyddus i siarad â fo hefyd. Gyda chymorth google, dysgais bedwar ymadrodd Rwsieg yn sydyn:

Dôbre wˆdre (bore da)
Minya zafwt ______. (______ dw i.)
Spasîba (diolch)
Dasfidania (hwyl)

Dwedais "Dôbre wˆdre" wrtho fo y bore ma, ac atebodd o "con nitsi wa" (helo yn Japaneg!) Mynychodd o ddosbarth Japaneg am wythnos ac mae o'n dal i gofio rhai ymadroddion. Ces i ddweud y pedwar ymadrodd Rwsieg i gyd ac roedd o'n fy neall!  Cawson ni sgwrs am ieithoedd wedyn.

8 comments:

neil wyn said...

Mae o'n swnio fel dyn deallus iawn gyda gymaint o ieithoedd! Da iawn am ymdrechu i'w gyfarth yn ei iaith ei hun:)

Emma Reese said...

Mae 'na bobl sy gan ddawn ieithyddol.

Gwybedyn said...

Un peth diddorol mae dy flog yn ei amlygu yw'r ffaith fod orgraff yr iaith Gymraeg yn hynod lwyddiannus wrth drawsgrifo'r ieithoedd Slafeg.

Am y rheswm yma byddaf innau'n aml yn teimlo'n pan welaf Gymry yn defnyddio fersiynau Saesneg eiriau Rwsieg neu Bwyleg ac ati - byddai eu sgwennu 'yn Gymraeg' yn gwneud llawn cymaint o synnwyr - a yn aml yn cyrraedd dipyn yn agosach at y seiniau brodorol.

e.e.
"Warszawa" (a yngenir gan y brodorion yn /farsiafa/)
neu /dostoieffsci/
neu /miedfiedief/

ac yn yr achosion hyn mae'r acen yn iawn hefyd (ar y goben - fel mae hi bron bob tro yn Bwyleg, hyd yn oed os nad felly y mae yn Rwsieg).

Gwybedyn said...

o - a Neil, gad imi wneud y cyfarth! :)

Emma Reese said...

Mae 'r' yn Rwsieg yn swnio'n debyg i'r un Cymraeg. Ac mae'n hawdd dangos sain hir efo to bach. Dim ond cael cip ar google wnes i, felly dw i ddim yn siwr. Oes gan Rwsieg sain 'ch' sy'n debyg i Gymraeg?

Gwybedyn said...

Am wn i, oes - yr un sy'n cael ei sgwennu'n "kh" yn aml wrth drawsgrifio - megis yn enw Mikhail Mikhailovich Bakhtin (Михаил Михайлович Бахти́н).

Eto, dydw i ddim yn gwybod ydy'r "х" hyn bob tro megis 'ch' y Gymraeg neu a yw weithau'n debycach i'r "c'h" Llydaweg.

Hefyd, o'r hyn dw i'n deall, mae gan Rwsieg gytseiniaid 'meddal' neu 'daflodol' fyddai'n amhosibl eu cyfleu'n iawn bob tro yn yr wyddor Ladin.

Ar y cyfan mae'r wyddor Sirilaidd yn fwy 'economaidd' o beth i sgwennu Rwsieg ynddo - felly'r holl lythrennau "i" yn fy 'Miedfiedief' am Медве́дев​ y Rwsieg. Ffurf gydnabyddedig enw'r Prif Weinidog yn Saesneg yw "Medvedev", sy'n dangos y gwendid yma.

A pheth arall i'w ystyried gyda'r Rwsieg yw bod llafariad diacen yn aml iawn yn cael eu niwtraleiddio. Nid felly y mae hi yn y Bwyleg, sy'n ynganu'r llafariaid yn glir bob tro, megis yn Gymraeg (er nad oes llafariaid hir yn Bwyleg!).

Emma Reese said...

Dyna fo. 'kha-rah-sho' - clywais hwn ar y we, ac roedwwn i'n meddwl bod 'kh' yn swnio'n debyg i 'ch' yn Gymraeg.

Gwybedyn said...

ie - a chymaint yn fwy rhesymegol fyddai inni'r Cymry ysgrifennu "charasió" - neu 'chara-sio' o bosibl :)

sy'n amlygu'r broblem rhwng sgwennu ac ynganu - хорошо yw'r gair, on'd yw ef? [Felly nid niwtraleiddio sydd yma chwaith.]