y deuddegfed llyfr
Gorffennais fy neuddegfed llyfr gan T.Llew Jones a brynais am bunt ym mhabell y Cyngor Llyfrau ym maes Eisteddfod y Bala. Bargen fawr wir! Dirgelwch yr Ogof ydy hwn, stori SiƓn Cwilt, smyglwr Cwmtydu. Er bod y diwedd dipyn yn rhy ramantus yn fy nhyb i, does yna ddim dwywaith mod i wedi mwynhau'r nofel hon gan feistr y stori antur.
Mae Diwrnod Cofio T.Llew rownd y gornel. Braf cael darllen llyfr arall gynno fo.
2 comments:
Dwi erioed wedi darllen llyfr gan T.Llew, er mawr cywilydd i mi, syfyllfa a ddylswn i ei newid cyn bo hir!
Mae ei lyfrau'n ddelfrydol i ddysgwyr canolradd ymlaen. Mae o'n sgwennu yn yr iaith safonol heb fod yn gymhleth.
Post a Comment