brat cymraeg
Gyrrodd fy merch hynaf luniau a dynnodd hi yn ystod y cinio mawr. Dyma fi wrthi'n gweini pasteiod pwmpen wedi'u hanner llosgi. Y fi argraffodd DA IAWN ar fy mrat. (Fy hoff frat ydy o wrth reswm.) Cliciwch y llun i weld y geiriau'n well. Un o fy merched iau a grasodd y bisgedi.
2 comments:
Roedd rhaid i mi fynd at y geiriadur i chwilio'r am y gair 'brat' rhaid cyfadde, ond mae'n gwneud synnwyr rŵan! Gair dwi'n cyfarwydd â fo am frat yw 'ffedog', gair a ddysgais ar ôl i mi ennill un efo 'Dechreuwch bob sgwrs yn Gymraeg' ar ei blaen, yn Eisteddfod y dysgwyr un flwyddyn, Rhoddais hi i fy mam fel anrheg dolig os gofiaf yn iawn! ac mae hi'n dal ei gwisgo.
Linda a Kate Roberts sy'n galw ffedog yn frat.
Pa fath o gystadleuaeth oedd hi?
Post a Comment