Thursday, November 26, 2009

cinio gwyl ddiolchgarwch, 1



Gwyl Ddiolchgarwch ydy hi heddiw yn yr Unol Daleithiau. Mae'r rhan fwyaf o'r teuluoedd yn cael cinio traddodiadol mawr heddiw ond bydda i a fy nheulu'n cael ein un ni ar ddydd Gwener ers i'r ferch hanaf briodi. Gyda theulu ei gwˆr mae hi'n treulio dydd Iau ac wedyn dod aton ni ddydd Gwener. Felly bydda i'n coginio fy nhwrci yfory.

Es i a'r teulu i dyˆ bwyta yn y dref am ginio twrci fel llynedd. Yr un tyˆ bwyta sy'n cynnig cinio'n rhad ac am ddim eto. Roedd o'n llawn o fyfyrwyr a rhai trigolion a oedd eisiau derbyn y cynnig hael. Cafodd pawb ddigon o fwyd blasus.

4 comments:

neil wyn said...

Mae'n edrych fel gwledd blasus tu hwnt!

Clywais dau Americanwr yn trafod 'diolchgarwch' ar sioe Nia ddoe (wyti'n gallu clywed ail-darllediadau oddi ar y radio, dwi ddim yn cofio?), Chris Cope oedd yr un, dwn i ddim enw'r llall. Roedd hi'n sgwrs diddorol a dysgais i ychydig am yr wŷl, un dwi 'm gwybod llawer amdani rhaid i mi gyfadde.

Emma Reese said...

Dw i'n medru clywed ail-ddarllediadau. Wyt ti'n cofio pryd maen nhw'n dechrau siarad yn y rhaglen?

neil wyn said...

Dwi'n credu tua hanner ffordd trwyddi, achos wnes i pigo drws nesaf am baned tua unarddeg o'r gloch, ac erbyn i mi ddod yn ôl roedden nhw ar fin dod â'r sgwrs i ben. felly wnes i 'wrando eto' nes ymlaen ar y gluniadur. Gobeithio ddoi di o hyd iddi!

Emma Reese said...

Dw i newydd wrando ar y clip. Diolch am sôn am y rhaglen.