Tuesday, November 24, 2009

dw i'n dysgu, rwy'n dysgu, rwyf yn dysgu, neu...

Dw i'n defnyddio'r ffurf 'dw i' ers dechrau dysgu Cymraeg rhyw chwe blynedd yn ôl, a fedra i ddim meddwl dweud dim byd arall ar lafar. Ond dw i'n gwybod bod 'dw i' yn eithaf anffurfiol ac eisiau defnyddio rhywbeth arall pan ysgrifenna i'n ffurfiol, e.e. llythyron ymholiad ayyb. (Dw i'n bwriadu cadw 'dw i' yn fy mlog .)

Beth ydy'r ffurf bersonol amser presennol 'bod' addas yn yr achos hwn? Un o'r pethau anodd i ddysgwyr Cymraeg ydy hyn yn fy nhyb i. 


6 comments:

Nic said...

Yn ysgrifennedig, "Dw i'n mynd" bron bob tro, efallai "Rwy'n mynd" mewn ebost at rhywun dw i ddim yn ei nabod, ac "Yr wyf yn mynd" mewn cydestun ffurfiol (prin iawn, felly, ers i fi gwympo ma's o'r cwrs gradd o'n i'n wneud).

Ar lafar, "dw i'n mynd" neu "wi'n mynd" (ffurf Cardi). Yn y dosbarth dw i'n trial bod yn gyson. Fel ti'n dweud, y pethau bach fel hyn yw'r pethau mwya anodd.

Fyddwn i byth yn defnyddio "Rydw i'n mynd" na "Fi'n mynd" - dim byd yn bod arnyn nhw, jyst ddim yn teimlo yn iawn yn ngheg i.

neil wyn said...

Dwi'n credu bod Nic wedi ateb y cwestiwn yn barod, ond digwydd bod roedd 'Gafael Mewn Gramadeg' gan David Thorne yn fy llaw felly ces i gip arno. Mae o'n rhoi 'Yr wyf i'n', ac wedyn 'Rydwi wedi' fel enghreifftiau. Y problem (dylswn i ddweud fy mhroblem i!) efo defnyddio'r ffurf 'ffurfiol' yw, rhaid i rywun dangos cysondeb ynglŷn â'r iaith eich bod chi'n defnyddio. Taswn i i ddechrau rhywbeth efo 'Yr wyf i', faswn i ddim yn gallu cario ymlaen yn yr un ddull, mor wan yw fy Nghymraeg ffurfiol. Pob tro dwi wedi sgwennu at fyn niwtoriaid yn Llambed dwi wedi defnyddio 'Rydwi'n' sy'n bach yn fwy ffurfiol na fy sgwennu arferol am wn i...?

Emma Reese said...

Fedra i ddim cario ymlaen ar ôl "yr wyf" chwaith, Neil! Felly faswn i ddim isio rhywbeth rhy ffurfiol. Wneith "dw i" neu "rwy'n" y tro wedi'r cwbl felly?

Corndolly said...

Byddwn i'n cytuno efo Nic a Neil - 'Dw i ' wrth siarad - 'Rwyf i'n' wrth ysgrifennu yn safonol, ond 'Yr wyf' os bydd y tiwtor yn darllen y peth. Ond fyddwn i ddim defnyddio'r rhagenw efo 'yr wyf'

Dw i wedi gyrru nodiadau atat ti'r llynedd, dw i'n credu sy'n esbonio mwy, ond bod yn onest, mae pethau yn newid weithiau os wyt ti'n byw mewn ardaloedd gwahanol.

Corndolly said...

Dywedodd ffrind i fi wythnos 'ma bod y tiwtor yn y coleg yn dysgu 'rwyf' rŵan ac mae hi eisiau ei disgyblion i'w ddefnyddio wrth siarad hefyd.

Emma Reese said...

Wel, mae'n ddrwg gen i ond dw i ddim yn bwriadu dweud "rwyf" ar lafar. Pa goleg mae dy ffrind yn mynd?