Friday, December 11, 2009

y gelyn ar y trên

Fedrwn i ddim rhoi'r llyfr i lawr. Roedd rhaid i mi gael gwybod beth fyddai'n mynd i ddigwydd. Sôn am nofel afaelgar! Dw i newydd orffen un o nofelau T.Llew, sef y Gelyn ar y Trên. 

Stori am antur hogyn gyda diddordeb mewn trenau ydy hi. Roedd rhaid i Guto fynd i weld y Royal Scotsman a fyddai'n pasio trwy ei dref fach am y tro cyntaf erioed boed yr ysgol neu beidio. Ond beth welodd o drwy ei finociwlars yn ogystal â'r injan trên enwog?

Mae'n ddifyr o'r dudalen gyntaf ymlaen ac mae'r stori'n datblygu'n gyflym dros ben. Ces i fy nharo unwaith a rhagor gan ddawn T.Llew. Ond rhaid dweud bod y stori'n gorffen braidd yn drist. Tybed bod ei brofiad chwerw yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn adlewyrchu ynddi hi.

Byswn i'n dweud mai fy ail ffefryn ydy'r nofel 'ma beth bynnag. (Barti Ddu, gyda llaw ydy fy ffefryn cyntaf.)

4 comments:

neil wyn said...

Dwi erioed wedi darllen llyfr gan T. Llew, ond ti'n wneud iddynt swnio mor wych, rhaid i mi newid hynny cyn bo hir!

Emma Reese said...

Mae oedolion yn mwynhau llyfrau T.Llew hefyd achos bod nhw wedi cael eu sgwennu mor dda.

Linda said...

Yn falch dy fod ti wedi mwynhau'r llyfr . 'Rwyt wedi codi awydd arnaf finna hefyd i ddarllen rhai o nofelau T Llew Jones :)

Emma Reese said...

Syniad da! Baswn i isio darllen y rhan fwyaf o'i lyfrau yn y dyfodol.