Saturday, February 5, 2011

dim bwyd yn Wal Mart!

Welais i erioed ffasiwn beth! Roedd llawer o silffoedd bwydydd yn Wal Mart yn wag heddiw. Cawson ni hoe fach yn y tywydd gaeafol heddiw ac es i am fwyd ers dyddiau. Cafodd pawb yn y dref yr un syniad. A'r canlyniad - dim digon o fwyd i bawb wedi i loris Wal Mart methu cyrraedd y siop oherwydd cyflwr gwael y ffyrdd.

Fe wnes i lwyddo i brynu digon drwy feddwl yn ddyfeisgar yn ffodus. Cawl cyw iâr i swper heno, hynny ydy cawl cyw iâr heb gyw iâr!

3 comments:

Linda said...

Mawredd mawr ! Anodd credu fod bwyd yn brin mewn siop fel Wal Mart. Mae'n rhaid fod nifer fawr iawn o bobl wedi bod yn prynu llwythi o bethau ar gyfer y tywydd drwg.
Falch o glywed dy fod wedi medru mynd allan i siopa beth bynnag :)

Emma Reese said...

Y gŵr a fynd â fi i siopa. Roedd gen i ofn gyrru ar y ffyrdd rhewllyd.

Linda said...

Newydd edrych ar ragolygon y tywydd acw , ac mae'r tywydd oer i'w weld yn parhau yr wythnos yma eto .