
Cawson ni'n rhybudd ddoe fyddai storm eira fwyaf yn hanes Oklahoma ar ei ffordd. Penderfynodd yr ysgolion a'r prifysgolion yn gynnar na fydd eu drysau'n agor heddiw. Fe ddaeth o yng nghanol nos. A dweud y gwir, chawson ni ddim cymaint o eira â'r disgwyl. Ond oer a gwyntog mae hi. Bydd y tymheredd yn disgyn yn -7F/-22C heno yn ôl rhagolygon y tywydd, a hithau'n 72F/22C ddydd Sadwrn diwethaf. Ydyn ni'n gynnes yn y tŷ gyda'r llosgwr logiau.
3 comments:
Cadwa'n gynnes!
Da clywed eich bod adref ...y lle gorau i fod yn y fath dywydd. Wedi gweld adroddiadau am y tywydd drwg yn Oklahoma ar y newyddion heno , hefyd o rannau eraill o America. Mae'r storm yn gwneud ei ffordd am Ganada - am y dwyrain diolch byth !
Bydd yr ysgolion ar gau yfory hefyd. Roedd yn heulog heddiw ond mae'r ffyrdd wedi rhewi'n gorn.
Post a Comment