Sunday, February 6, 2011

iglw

Dim ond diwrnod yr aeth y plant i'r ysgol yr wythnos diwethaf. Heddiw cafodd gwasanaeth ein heglwys ni ei ganslo hyd yn oed (ond doedd hi ddim mor oer na'r disgwyl ac mae'r eira wedi dechrau toddi.) Cafodd fy mhlant hwyl yn yr eira beth bynnag. Penderfynon nhw wneud iglw ar gau agos. Dyma nhw wrthi ers oriau gyda help hogyn o'r Almaen sy'n byw'n agos. Daeth gohebydd y papur newydd lleol i dynnu llun ohonyn nhw. (Mae ganddyn nhw ddiffyg newyddion, mae'n amlwg!)

4 comments:

Linda said...

Gwych ! Dwi'n siwr fod pawb wedi mwynhau adeiladu'r iglŵ.
Ydi'r tô wedi ei osod eto ?

Emma Reese said...

Dim eto ond mae'r iglw'n fwy bellach. Mi wna i dynnu llun ar ôl i bopeth gael ei orffen.

Robert Humphries said...

Ardderchog! Bydd rhaid i mi wneud hynny gyda'r plant rhyw ddydd.

Emma Reese said...

Bydd, ond cyn i'r eira doddi!