Tuesday, March 15, 2011

gobaith

Dw i mor falch o'u gweld nhw! Mae'r tiwlipau a gawson ni'n anrheg gan Leanne, yr hogan o Abertawe wedi dangos eu pennau gwyrdd drwy'r dail yn ein gardd flaen. Pan blannais i'r dwsin o'r bylbiau fisoedd yn ôl, doeddwn i ddim yn hollol siŵr a fydden nhw'n goroesi'r gaeaf. Dydy pridd caregog yr ardd ddim yn addas i blannu planhigion chwaith. Cafodd un neu ddau eu diwreiddio gan wiwerod direidus hefyd. Edrycha' i ymlaen at eu gweld nhw'n tyfu o hyn ymlaen.

2 comments:

Corndolly said...

Ces i amser i ddal i fyny efo darllen blogiau heddiw, ac dwi wedi sylw nad wyt ti wedi ysgrifennu unrhyw beth am bythefnos. Gobeithio bod popeth yn iawn, ers i ti anfon yr e-bost diwethaf ataf fi.

Emma Reese said...

Diolch am holi. Mae popeth yn iawn ond does dim arbenning i'w adrodd. Dyna pam mod i heb sgwennu'n ddiweddar. Gyda llaw, mae'r tiwlipau'n tyfu'n braf. Mi wna i roi llun cyn hir.