Wednesday, April 13, 2011

calendr i mam

Wrth feddwl am anrheg ben-blwydd i fy mam neithiwr, fe wnes i ddarganfod peth hwylus dros ben ar MAC; mae gan iPhoto fodd i greu calendrau gwreiddiol yn rhwydd. Y peth anosaf oedd dewis deuddeg llun o fy albwm. Gyrrais i archeb yn uniongyrchol at Apple; bydden nhw'n danfon y calendr ymhen rhyw wythnos. Dw i'n siŵr bydd fy mam wrth ei bodd efo'r anrheg.

1 comment:

neil wyn said...

syniad da, gaiff dy fam anrheg personol ac unigryw!