Monday, April 1, 2013

yn ôl o wlad goed ceirios - olaf

Wedi cael amser bendigedig yn Tokyo, es i a fy merch ar ein ffordd adref. Aeth popeth yn dda iawn nes i ni gyrraedd maes awyr Dallas. Cafodd ein hediad i Tulsa ei ganslo oherwydd storm eira! Darparai American Airlines hediad arall y bore wedyn, ond rhaid ffeindio llety am y noson. Roedd y staff wrthi'n ffonio'r gwestai cyfagos tra cyhoeddodd rhai cyd-deithwyr fyddai'n rhentu ceir. Yn hytrach na'r holl gynnwrf, penderfynais aros lle oedden ni, sef yn y maes awyr. Roedd rhyw ddwsin o bobl eraill yn gwneud yr un peth. Cynigodd AA welyau cludadwy, blancedi a snac, chwarae teg iddyn nhw. Methon ni'n llwyr i gysgu fodd bynnag, ond roeddwn i'n fodlon efo fy newis. Aethon ni adref heb broblem wedyn.

No comments: