Friday, June 7, 2013

yn ôl o fenis


Wedi pythefnos hapus yn Fenis, des i'n ôl yn ddiogel. Roedd yn brofiad anhygoel o hyfryd, ac eto mae'n braf bod gartref efo'r teulu. Treuliais ddiwrnod cyfan ddoe heb wneud dim byd ond trefnu'r lluniau a dynnais, rhyw 800. Dyma gychwyn adrodd fy hanes fel arfer. Gobeithio na fydda i'n gwneud gormod o gamgymeriadau gan fy mod i wedi byw cyfan gwbl yn Eidaleg am sbel.

Hedfanais ar Awyr Swis am y tro cyntaf o Chicago i Zurich ac wedyn i Faes Awyr Marco Polo. Maen nhw'n wych - y criw, gwasanaeth a phob dim. Mae'r criw i gyd yn siarad sawl iaith "heb battio llygad." Siaradodd un ohonyn nhw hyd yn oed yn Japaneg efo fi! (A ches i ryw ddwsin o siocled bach blasus ganddi hi!)

3 comments:

Rhys Wynne said...

Welaist ti Lowri yno? :-)

Digitalgran said...

Edrych ymlaen i weld lluniau Venice.

Emma Reese said...

Naddo. Mi welais Bedwyr Williams yn arddangosfa Cymru yn Biennale. Roedd o'n hynod o glên.

Diolch i ti Margaret.