Friday, March 31, 2017
gwanwyn
Thursday, March 30, 2017
anymarferol
Bwriad nobl, ond na fydd yn gweithio oherwydd y natur sylfaenol ddynol . Dw i'n sôn am waharddiad ar arfau niwclear a gynigwyd gan y Pab Francis at y Cenhedloedd Unedig. Mae'n debyg i waharddiad ar gynnau; dim ond y bobl sydd yn parchu'r gyfraith a fydd yn ufudd i'r gwaharddiad, ac felly dim ond y drygionus a fydd yn berchen ar yr arfau wrth adael y bobl dda heb fodd i amddiffyn eu hun. Diolch i Nikki Haley a lefarodd yn erbyn y syniad ar unwaith.
Wednesday, March 29, 2017
sodlau i gigio
Mae pawb wrth ei fodd efo hi - pawb, sef y rhai sydd yn caru Israel. Mynegodd Nikki Haley ei chefnogaeth gadarn i Israel unwaith eto o flaen cynulleidfa AIPAC. Nid dim ond yn y gair; atal gwnaeth hi hyd yma dau ymosodiad yn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Israel. Dwedodd hyd yn oed ei bod hi'n gwisgo sodlau er mwyn cicio unrhyw un fydd yn bwlio Israel! (symbolaeth, neu pwy a ŵyr?) Wrth gwrs ei bod hi'n medru bod yn ddewr felly oherwydd yr Arlywydd Trump. Mae hi'n adlewyrchu ei bolisi. Gwych ydy hi beth bynnag.
Tuesday, March 28, 2017
corea
Mae fy nwy ferch yn Corea ar eu gwyliau ers dyddiau. Roedd un o'r ddwy'n gweithio fel athrawes Saesneg yno am flwyddyn o'r blaen ac felly mae ganddi nifer o ffrindiau. Mae hi'n medru dangos y lle oedd hi'n arfer byw i'w chwaer tra bod nhw'n cael amser gwych. Mae'r dref yma'n edrych fel Japan, ac eto mae yna wahaniaethau trawiadol hefyd.
Monday, March 27, 2017
brwydr
Roeddwn i wedi gohirio'r gorchwyl hwn. Yn awr neu byth. Roedd y pridd yn feddal wedi glaw trwm; roedd hi'n oeraidd, efallai am y tro olaf yn y tymor. Penderfynais chwynnu gwely'r gellesg glas. Fel disgwyliwyd, roedd yn ofnadwy. Cafodd o ei feddiannu gan chwyn nerthol anghyfreithlon yn llwyr, ac roedd y trigolion cyfreithlon druan yn cael eu llethu gan yr ymwthwyr. Dyma ddechrau'r gwaith yn ffyrnig. Ar ôl hanner awr mae'r gwely blodau'n dwt, ac mae'r gellesg glas yn edrych yn hapus a diolchgar.
Saturday, March 25, 2017
darlunio
Wedi treulio wythnos o wyliau yn cysgu'n ddigon ac yn ymlacio gartref , aeth fy merch ifancaf yn ôl i'r brifysgol yn Missouri heddiw i ail-ddechrau tymor prysur. Ar wahân i wneud y gwaith cartref, roedd hi wrthi'n darlunio golygfa oddi wrth y fersiwn ddiweddaraf the Beauty and the Beast. Rhaid i mi ddweud ei bod hi'n hynod o dda. Mae'r tŷ'n ddistaw iawn unwaith eto.
Friday, March 24, 2017
llysgennad i israel
Cafodd David Friedman ei gadarnhau fel y llysgennad i Israel o'r diwedd er gwaethaf gwrthwynebiad ffyrnig gan y Democratiaid (ar wahân i Mr. Manchin annwyl) a'r rhyddfrydwyr gan gynnwys rhai Iddewon rhyddfrydol hyd yn oed. Dewiswyd gan yr Arlywydd Trump efo'i holl fendith, mae o'n ddyn perffaith i'r swydd bwysig hon. Mae o'n barod i gychwyn gweithio yn Jerwsalem, prif ddinas Israel. Pob bendith.
Thursday, March 23, 2017
seddau cynnes
Roedd yn oer iawn yn annisgwyl pan aeth fy mab i Japan. Dim ond siaced ysgafn, het a menig roedd ganddo i gadw'n gynnes. Wedi iddo a'r criw'n cerdded o gwmpas am oriau bob dydd, roedd yn ollyngdod mawr i eistedd ar seddau cynnes y trên. Mae yna wresogydd o danyn nhw. Roedd fy mab wrth ei fodd efo nhw a seddau cynnes tai bach yn Japan!
Tuesday, March 21, 2017
enfys a mellten
Rodd gan yr awyr liw rhyfedd pan gamais allan o'r drws blaen y bore 'ma fel pe bai tornado ar fin dod. Yna, roeddwn i'n sylwi hanner enfys. Dechreuodd daranu. Rhyfedd iawn gweld enfys a mellten efo'i gilydd. Wedi cerdded am sbel dyma weld enfys gyfan. Roedd hi'n dal i daranu. Daeth glaw ysgafn. Cerddais yn ôl adref wrth ganu Hu Yavo (mae o'n dod.)
Monday, March 20, 2017
doethach nag oedolion
Saturday, March 18, 2017
adref
Friday, March 17, 2017
safon ddwbl
Thursday, March 16, 2017
siom a gobaith
Wednesday, March 15, 2017
happy house
Tuesday, March 14, 2017
rhagolwg
Wrth fy mab ifancaf yn treulio wythnos yn Japan, dim ond y fi a'r gŵr sydd gartref. (Ydw i'n clywed atsain yn y tŷ rhy fawr i ni'n ddau?) Gan fod y gŵr ar wyliau'r brifysgol hefyd, mae ganddo fo amser i wneud y pethau o gwmpas y tŷ o'r diwedd. Does dim rhaid i mi goginio llawer, na golchi dillad bob dydd. Rhaid bod hyn i gyd yn rhagolwg ein dyfodol (agos) ni!
Monday, March 13, 2017
Japan - kimono
Mae fy mhlant yn cael gwyliau hyfryd yn Japan. Cafodd fy mab ei daro gan y ffaith bod Japan yn anhygoel o lân a bod y bobl yn hynod o glên. Cawson nhw ynghyd eu dwy chwaer yno ddiwrnod hynod o arbennig - roedd tiwtor kimono fy drydedd ferch yn glên iawn i gynnig rhoi kimono arnyn nhw i gyd gan gynnwys yr hogiau. (Sgil arbennig ydy gwisgo kimono ar eich pen eich hun.) Cerddon nhw i deml gerllaw yn eu kimono ar gyfer tynnu lluniau. Roedd y tiwtor wedi blino'n lân ond hapus!
Sunday, March 12, 2017
Saturday, March 11, 2017
ar gyfer y fath amser â hwn
Friday, March 10, 2017
llyfr newydd
Thursday, March 9, 2017
siwrnai fawr
Cychwynnodd y tri ar siwrnai fawr heddiw - fy merch hynaf, ei gŵr a fy mab ifancaf. Maen nhw newydd adael maes awyr Dallas i fynd i Japan. Byddan nhw'n aros yn Tokyo am ryw ddeg diwrnod yn ymweld â'r teulu a ffrindiau, ac yn cael profiad uniongyrchol o Japan. Y tro cyntaf ydy hwn i fy mab i fynd i Japan; bydd o'n cael hwyl heb ddrysu efo ei chwaer a'i gŵr yn ei dywys o gwmpas.
Wednesday, March 8, 2017
pêl-fas
Safai tîm pêl-fas Israel gyda kippa ar ben pawb wrth wrando ar anthem genedlaethol. Er bod nhw ar waelod rhestr Bêl-fas Clasurol y Byd eleni, fe wnaeth y tîm yn ardderchog a churo timau De Corea a Taiwan yr wythnos 'ma. Byddan nhw'n chwarae yn erbyn yr Iseldiroedd yfory. Os byddan nhw'n ennill, byddan nhw'n chwarae yn Japan, yn erbyn tîm Japan mae'n debyg. Bydda i'n cefnogi tîm Israel!
ON: Enillon nhw! 4-2!
ON: Enillon nhw! 4-2!
Tuesday, March 7, 2017
adlewyrchiadau oklahomanaidd
Cawson ni storm ofnadwy o gryf neithiwr. Roeddwn i'n ofni y byddai ffenestr fy ystafell wely yn cael ei chwalu hyd yn oed oherwydd y gwynt nerthol. Roedd popeth yn iawn y bore 'ma, fodd bynnag ar wahân i rai canghennau a syrthiodd yn yr iard gefn. Golchodd y storm yr awyr yn lân, ac roedd yn fore braf. Des i ar draws coeden flodeuog yn y goedwig.
Monday, March 6, 2017
un gwell
Mae'r Arlywydd Trump newydd arwyddo gorchymyn gweithredol newydd bydd yn gwahardd y teithwyr o'r chwe gwlad am 90 diwrnod. Mae o'n llawer gwell na'r un gwreiddiol oherwydd mai y llysgenadaethau a fydd yn delio efo'r bobl yn hytrach na meysydd awyr America. Bydd o'n atal y barnwyr anffyddlon rhag ymyrryd ar orchymyn yr Arlywydd hefyd. Dydy o ddim yn cynnwys Irac oherwydd ei bod hi'n addo i fod yn llym. Mae'r rhyddfrydwyr yn gandryll unwaith eto, ond maen nhw yn erbyn popeth mae'r Arlywydd yn ei wneud bob amser, ac felly dim ots.
Saturday, March 4, 2017
fideo hebraeg/ffrangeg
Dw i newydd ffeindio cyfres o fideo diddorol i ddysgu Hebraeg drwy gyfrwng y Ffrangeg. Dim gwersi ydyn nhw yn y bôn ond erthyglau newyddion, cynhyrchion newydd, deialogau, geiriau a gramadeg neu ddwy. Y peth braf ydy bod nhw i gyd yn fyr iawn. Yn aml dw i ddim yn medru gwahaniaethu'r Hebraeg a'r Ffrangeg oherwydd bod y tiwtor yn siarad yn gyflym heb stopio. Maen nhw'n ddiddorol beth bynnag. Dw i wedi dysgu "toes ar gyfer crwst efo saws tomato, yn addas i pizza hefyd."
Friday, March 3, 2017
3 mawrth
Gŵyl Ferched Hapus i'r holl ferched, hen ac ifanc! Roeddwn i'n barod eleni; tynnais fy noliau allan o'r blwch ddyddiau'n ôl, ynghyd â'r hen bapur newydd a ddefnyddir fel padin. Papur newydd Saesneg o Japan dyddiwyd 27 Mehefin, 1990 - y flwyddyn symudais efo'r teulu i America.
Thursday, March 2, 2017
chwech
Wednesday, March 1, 2017
Subscribe to:
Posts (Atom)