Saturday, March 2, 2019

nofel heb enw - pennod 2


"May I help you?” gofynnodd dynes tu ôl y cownter yn gwrtais.
“Pnawn da. Dw i'n chwilio am Mr. Henry Williams,” atebodd Nisha yn Gymraeg heb betruso. Collodd y ddynes ei thafod am eiliad yn clywed Cymraeg oddi wrth yr hogan ddieithr.
"W.. wel, mae o newydd fynd i'r lolfa efo'r hogia."
"Lle mae'r lolfa?"
"Draw fan 'na, i'r chwith."
"Diolch yn fawr.”

————

Stopiodd Gareth yng nghanol ei frawddeg pan welodd hogan yn cerdded tuag at y grŵp o ddynion. Trodd Henry ei ben i weld beth mae Gareth yn syllu arno.
"Pnawn da, Mr. Williams. Sut gêm gawsoch chi?" gofynnodd Nisha.
"A... champion."
"Twll mewn un?"
"Na.. dim yn union, ond digon da i mi."
"Leicioch chi ista yma, Miss Kingfisher?" gofynnodd Gareth.
“Sut gwyddoch chi fy enw? O! Chi ydy’r heddwas, y Cwnstabl Jones. Mae’n ddrwg gen i. Doeddwn i ddim yn eich adnabod chi heb eich gwisg heddlu.”
“Popeth yn iawn. Be gymwch chi, ta?”
“Lemonêd, os gwelwch yn dda,” dwedodd hi gan eistedd ar yr unig sedd wag wrth y bwrdd.
“Mae’n ddrwg gen i am darfu arnoch chi.”
"Dim problem o gwbl. Dw i'n siŵr bod yr hogia yn fwy na hapus cael eich cwmni chi. Miss Kingfisher, dyma Dai Jones. Mae o'n berchen ar Siop Spar yn y dref. A dyma Huw Evans. Athro'r ysgol ydy o."
"Galwch fi'n Nisha, plîs. Neis eich cyfarfod chi.”
"Y chi a ddysgodd wers i'r Sais felly," meddai Dai gydag edmygedd.
"Mi hoffwn i fod wedi gweld yr ornest!" oddi wrth Huw.
"Glywsoch chi'r hanes yn barod?" edrychodd hi ar Gareth sydd yn gwenu.
"Ddylwn i ddim bod wedi achosi cymaint o gynnwrf, ond fedrwn i ddim dioddef ei sylw sarhaus ar Mr. Williams,” dwedodd Nisha yn benderfynol gan edrych ar y bwrdd.
Cynheswyd calon Henry gan eiriau Nishia.
"Dw i'n hen gyfarwydd â chael fy nhrin felly hyd yn oed gan ryw Gymry."
"Lle dysgoch chi baffio?" gofynnodd Dai.
"Mi ges i fy ngwers gyntaf gan 'Nhad pan oeddwn i'n hogan fach. Roedd o'n hoff iawn o baffio, ac mae o'n dal wrthi. Gobeithio na wneith glywed beth wnes i heddiw, neu mi ga' i gweir ganno fo!"
Chwarddodd y dynion.
"Mae'ch Cymraeg yn ardderchog beth bynnag," meddai Huw.
"Sut wnaethoch chi ddysgu?
"Ar ben fy hun efo llyfrau, CDau a'r rhyngrwyd."
"Ar eich pen eich hun?! Chi wedi gwneud yn dda iawn!" meddai Dai.
"Diolch," meddai Nisha'n swil. "ond dw i isio gwella fy Nghymraeg. Dyna un o'r rhesymau des i Gymru."
"Be ydy'r rhesymau eraill? gofynnodd Gareth.
Edrychodd Nisha ar Henry am eiliad cyn gostwng ei llygaid. Yna, dwedodd hi’n araf,
"Dw i'n gobeithio cael hyd i gangen fy nheulu yng Nghymru."
Distawodd pawb

No comments: