Saturday, March 9, 2019

celf si-so

Celf si-so - beth ydy hwn? Gofynnais i fy merch. Doedd ganddi hi syniad chwaith nes iddi fynd i'r seremoni agoriadol a gynhaliwyd yn Oklahoma City neithiwr. Dyma fo, fel gwelir yn y llun. Celf a si-so! Clywais fod nifer o oedolion hyd yn oed wrth eu bodd yn chwarae ar y si-so! Paentiodd fy merch un o'r paentiadau uwchben beth bynnag. Bydd hi'n mynd i greu mwy o furluniau eleni, yn Houston Texas, Tulsa a Mimai Oklahoma (dim yn Florida,) yna yn Israel eto.

No comments: