Monday, March 4, 2019

nofel heb enw - pennod 3 (yr olaf)


"Eich teulu?"
"Dach chi'n gwybod lle maen nhw'n byw?" Gofynnodd Huw.
"Mae gen i ryw syniad, ond dw i ddim yn hollol siŵr. Dyna pam dw i isio gwneud y gwaith ymchwil. Dw i'n bwriadu ymweld â'r llyfrgell, y capeli a'r eglwysi yma am ragor o wybodaeth."
"Felly mae cangen eich teulu yn byw ym Mhwllheli, dach chi'n ei feddwl?" Holodd Gareth efo chwilfrydedd.
"Digon posib," pefriodd llygaid clws Nisha.
Mae Henry wedi bod yn gwrando ar y sgwrs ryfeddol yn ddistaw, ond rŵan mentrodd,
"Nisha, fedrwch chi adrodd eich hanes wrthon ni?"
Trodd ei hwyneb i edrych ar Henry oedd wrth ei hymyl, yna ar y lleill.
"Mi fedra i.”
“Chwarter Cherokee ydy ‘Nhad, ac Americanes wen ydy fy mam. Does 'na ddim llawer o Cherokees yn medru eu hiaith frodorol bellach, ond ei siarad hi mae 'Nhad. A dw i'n siarad hi'n rhugl hefyd. Wrth fynd i'r brifysgol, dechreues i ymddiddori yn hanes y teulu. Tra roeddwn i wrthi, mi ddes i hyd i ddyn anhygoel ymysg fy hynafiaid. Evan Jones oedd ei enw. Cymro oedd o."
Edrychodd pawb yn syn arni heb ddweud gair.
"Bobl fach," meddai Gareth o'r diwedd.
"Cenhadwr y Bedyddwyr oedd o. Daeth i Oklahoma efo Llwyth Cherokee ar Trail of Tears. Y fo a gyfieithodd y Testament Newydd i'r Cheroceg."
Roedd bochau Nisha wedi cochi erbyn hyn efo cyffro, ac roedd ei llygaid mawr yn fwy fyth.
"Mae'n anhygoel," dwedodd Huw.
"Ydy wir. Dw i'n cael hi'n anodd credu mai rhywun yn y teulu a gyfieithodd y Testament Newydd dw i'n ei ddarllen bob dydd, ac wedi dod o wlad mor bell hefyd."
"Mae hyn yn fwy diddorol na unrhyw stori ddarllenes i erioed," cytunodd Gareth.
"Os gwnewch chi lwyddo, dw i'n siŵr bydd BBC yn awyddus eich cyfweld chi," meddai Dai.
Roedd y dynion i gyd yn llawn cyffro, a dechreuon nhw siarad ar yr un pryd.
"Mr. Williams, ga' i siarad â chi a'ch gwraig rywbryd?" Gofynnodd Nisha'n sydyn.
"Fi? A fy ngwraig? W... wrth gwrs. Cewch a chroeso, ond... ond pam?"
Edrychodd pawb ar Nisha yn ddisgwylgar.
"Mae'n bosib bod chi yn un o fy mherthnasau."


No comments: