Saturday, November 30, 2019
amser gyda'r teulu
Mae'r teulu wedi cyrraedd drwy’r glaw drwm ddoe i ddathlu Diwrnod Diolchgarwch (un dydd hwyrach na'r lleill.) Mae'r tŷ' dan ei sang. Er mwyn achub fy nghefn, wnes i ddim coginio twrci, ond prynu ieir ac asennau porc wedi'u rhostio. Daeth fy merch â phasteiod oddi wrth ginio teulu ei gŵr. Dim ond llysiau a goginiais. Roedd/mae gen i gymaint i'w wneud er gwaethaf popeth.
Thursday, November 28, 2019
gŵyl diolchgarwch
Diolch i ti, yr Arglwydd am dy fendith wyt ti'n tywallt arna i bob dydd - am y teulu, am y wlad rydd dw i'n byw ynddi, am y digon o fwyd, am y dŵr glân, am yr awyr lân, am yr Arlywydd Trump. Yn anad dim, diolch i ti am faddau fy mhechodau drwy waed Iesu.
Wednesday, November 27, 2019
sgil ddiddorol
Tuesday, November 26, 2019
bath arbennig
Monday, November 25, 2019
carmen
Mae ganddi Syndrom Dawn, ond dydy hyn ddim yn atal Carmen, merch ifancaf ein gweinidog ni rhag bod yn fendith i bawb o'i chwmpas hi. Aeth yn sâl difrifol, ac roedd hi yn yr uned gofal dwys ers pythefnos. Methodd y meddygon ddarganfod beth oedd yn achosi gwaedu yn ei hysgyfaint. Roedd rhaid iddi gael llawdriniaeth hefyd. Ddoe, o'r diwedd dechreuodd hi wella, wedi i'r meddygon ddarganfod y bacteria ar fai. Drwy gydol popeth, y hi oedd yn annog ei mam i beidio â digalonni oherwydd mai Duw sydd yn rheoli.
Saturday, November 23, 2019
bydd o'n dod adref
Friday, November 22, 2019
hen lyfr
Des i ar draws rhan o'r llyfr hwn pan oeddwn i'n astudio Saesneg mewn coleg yn Japan llawer blynedd yn ôl. Mr. Hollowell, un o'r athrawon a roddodd rhyw dudalennau i'r dosbarth i ni eu hastudio. Astudio a wnes i, ac yn ddwys. Dw i'n dal i gofio'n dda'r hanesyn diddorol rhwng yr awdur adnabyddus a'i ysgrifennydd ifanc, cydwybodol. Ffeindiais hen lyfr yn y llyfrgell leol, a dyma gychwyn darllen y rhan enwog. Mae hi'r union fel dw i'n ei chofio!
Thursday, November 21, 2019
pethau syml
Wednesday, November 20, 2019
gormod o halen
Methais yn llwyr. Eto. Ychwanegais ormod o halen yn y crempogau tatws a zucchini ar ddamwain. Fe wnes i ei wneud o'r blaen, a dyma fi'n ail wneud yr un camgymeriad unwaith yn rhagor. Methodd hyd yn oed y gŵr ei fwyta yn dweud bod yna ormod o halen. Doedd dim byd i wneud ond eu taflu nhw yn y bin. Siom ofnadwy. Efallai na fydda i byth yn gwneud y saig honno.
Tuesday, November 19, 2019
byw gydag alergedd
Wedi torri allan popeth ar y rhestr waharddedig FODMAP oddi ar fy niet, dechreuais ail gyflwyno un ar y tro er mwyn probi pa fwyd fedra i ei fwyta. Dw i'n gwybod bellach fy mod i'n iawn gyda garlleg, llefrith heb lactos a chaws, . Ar y llaw arall, bydda i'n dioddef os bydda i'n bwyta ffa, glwten a nionod. Proses araf a phoenus ydy hyn, ond o leiaf dw i'n falch o wybod beth ydy beth.
Monday, November 18, 2019
cnau pecan
Mae'r gŵr newydd ddarganfod bod yna ddwy goeden pecan ar dir ein heglwys ni. Rhaid eu bod nhw yno am amser hir oherwydd eu bod nhw'n dal iawn, ond chlywais erioed amdanyn nhw. Dyma fo'n casglu'r cnau gwerthfawr. Doedd dim llawer ar ôl. (Mae'n amlwg bod y cymdogion yn mwynhau'r cnau rhad ac am ddim.) Rhostiais i nhw yn y popty. Blasus!
Saturday, November 16, 2019
yn ôl at jane austen
Roeddwn i'n ceisio ymddiddori mewn nofel arall, sef Vanity Fair am sbel. Gwrandawais ar 11 pennod, ond penderfynu rhoi'r gorau iddi. Er ei bod hi un o'r llenyddiaeth fwyaf enwog, ac mai Helen Taylor sydd yn darllen, mae hi braidd yn ddiflas yn fy nhyb i. Yn ôl at Jane Austen (Emma) am y tro felly.
Friday, November 15, 2019
chwant cornetto
Dw i newydd gael cornetto gyda choffi (a baratowyd yn moka.) Rhaid swnio'n hollol gyffredin i'r rhan fwyaf o'r bobl, ond ddim i mi. Ers darganfod bod gen i alergedd FODMAP, roeddwn i'n osgoi glwten, ond ces i fy nhrechu gan chwant cornetto'n ddiweddar fel penderfynais gael un heddiw, ac wynebu'r canlyniad wedyn. (Gyda jam mafon, yn hytrach na bricyll, fodd bynnag, er mwyn lleihau'r effaith.) Er nad oedd cystal â'r un a ges i yn Caffè Poggi yn Fenis, roedd yn flasus!
Wednesday, November 13, 2019
beaver moon
Am ddeg munud i saith y bore 'ma, ces i neges testun gan y gŵr a aeth i redeg gyda'i ffrindiau. "Gwelir y lleuad fawr yn yr awyr gorllewinol." Es i allan ar y dec cefn wedi'i rewi (20F/-7C.) Er bod y golau'n wan erbyn hynny, roedd hi mor fawreddog. Fedrwn i ddim peidio â chanu Mor Fawr Wyt Ti, i Dduw a'i chreodd hi.
Tuesday, November 12, 2019
swper i gyn-filwyr
Monday, November 11, 2019
Saturday, November 9, 2019
swper i ddathlu
Es i Chili's gyda'r gŵr neithiwr. Oherwydd yr alergedd FODMAP, mae'n anodd i mi fwyta allan. Maen nhw'n cynnig plât eog, a dyna'r peth a ges i. Roedd yr eog gyda saws coriander yn hynod o flasus. Yfais wyn gwyn ardderchog hefyd. Noson braf i ddathlu fy mhen-blwydd.
Friday, November 8, 2019
anrheg slei
Ces i fy synnu yn gweld bag anrheg ar fwrdd bwyta'r bore 'ma. Dwedodd y gŵr wrtha' i am ei agor - pecyn o baprica o Hwngari! Roeddwn i'n meddwl ei archebu o'r blaen, ond penderfynais beidio, a'i osod yn y fasged "prynu yn y dyfodol" Amazon. Gwelodd y gŵr y peth, a'i archebu'n slei bach yn anrheg pen-blwydd i mi! Dw i'n awyddus i goginio goulash eto a defnyddio'r sbeis.
Thursday, November 7, 2019
ffôn
Pryd bynnag bydda i'n clywed y ffôn yn canu wrth iddo ddangos pwy sydd yn fy ngalw, dw i'n ddiolchgar am y dechnoleg fodern. Does dim rhaid ateb galwadau annifyr rhai sydd eisiau gwerthu pethau. Dw i'n cofio'n iawn pan oeddwn i'n meddwl pa mor braf byddai hi pe byddwn i'n medru gwybod pwy sydd yn fy ngalw heb godi'r ffôn. Gwireddwyd fy mreuddwyd!
Wednesday, November 6, 2019
bwydlen
Tuesday, November 5, 2019
bod yn wyliadwrus
Postiodd y gŵr lun a dynnwyd tair blynedd yn ôl cyn yr etholiad arlywyddol. Daeth myfyrwyr ac athrawon Ysgol Optometreg at ein gilydd er mwyn gweddïo dros America a'r etholiad. Dw i a'r gŵr yn gweddïo’n ddi-baid dros yr Arlywydd Trump ers hynny, ond mae'r amser wedi dod yn barod i ddwysáu'r dasg. Er bod yr Arlywydd yn gweithio'n hynod o galed dros America, a drwyn canlyniadau ardderchog, ac mae'r Democratiaid yn datguddio eu ffolineb a thwyll mwyfwy, rhaid bod yn wyliadwrus.
Monday, November 4, 2019
dail lliwgar
Dw i'n hoff iawn o ddail lliwgar coed masarn yn yr hydref. Yn anfoddus does dim nifer o'r coed yn y gymdogaeth hon, (does gynnon ni ddim byd) ond mae yna un prydferth dros ben dw i'n ei hedmygu bob tro pan fydda i'n mynd am dro. Mae carped coch melyn o danni hi ers wythnos. Codais hanner dwsin o ddail arbennig o hardd ddyddiau'n ôl er mwyn eu pwyso. Dyma'r canlyniad. Byddan nhw'n sirioli'r ystafell yn ystod y gaeaf.
Saturday, November 2, 2019
tai rhad ac yn ddim yn japan
Mae gan bentref ger Tokyo broblem ddiboblogi fel nifer mawr o lefydd yn Japan a gwledydd yn y byd. Cafodd y llywodraeth leol syniad gwych; os dach chi'n byw mewn un o'r tai gwag yno am 15 mlynedd, fe allwch chi berchen arno fo yn rhad ac yn ddim!
Friday, November 1, 2019
cefnogi israel
Subscribe to:
Posts (Atom)