Monday, August 2, 2021

drwy delesgop

Roedd fy nwy ferch yn Tokyo yn benderfynol o gael cip ar gêm Olympaidd fyw. Aethon nhw i Enoshima lle oedd ras hwylio'n cael ei gynnal, a'i weld o, drwy delesgop! Efallai nad oedden nhw'n medru gweld y manylion, ond rhaid eu bod nhw wedi treulio diwrnod braf ar y traeth yn yr haul.

No comments: