Mae fy merch hynaf newydd baentio ei murlun cyntaf yn Japan - ei breuddwyd! Un bach y tro 'ma yn Tokyo ydy o, ond y murlun cyntaf fodd bynnag. Agorir tafarn gan ffrind iddi, a phaentiodd hi ar y wal wrth y grisiau sydd yn arwain at y dafarn islaw. Gan fod y murlun yn cael ei weld tu allan, dw i'n sicr y bydd y blodau lliwgar yn dal llygaid pobl sydd yn cerdded heibio.
No comments:
Post a Comment