Tuesday, July 9, 2019

etifeddu beibl

Cyrhaeddodd becyn oddi wrth frawd y gŵr. Gyrrodd bentwr o hen luniau ei rieni wrth drefnu eu heiddo. Yn eu mysg, roedd Feibl ei dad - Fersiwn ESV. Roeddwn i eisiau'r fersiwn hwn ers dechrau gwrando ar y Gweinidog LeBoutillier. (Mae'r llythrennau'n ddigon mawr i fy llygaid.) Penderfynais ar yr unwaith y bydda i'w eisiau. Ac felly y bydd. Bydda i'n ei drysori gweddill fy oes.

Monday, July 8, 2019

i sderot

Mae fy merch hynaf ynghyd â dau artist arall yn gadael am Israel eto heddiw, er mwyn paentio murluniau ar y llochesau bom yno. I Sderot ger Gaza byddan nhw'n mynd y tro hwn lle mae rocedi Hamas yn disgyn yn aml iawn. A dweud y gwir, mae yna gymaint o weddillion y rocedi fel dechreuodd un artist eu troi yn bethau hardd. Cewch chi weld un ohonyn nhw yn y llun ar y dde - Tlws Crog Sderot. Mae'r garreg fach yn dangos lle mae'r dref.

Saturday, July 6, 2019

enw newydd

Penderfynais newid enw'r wiwer (a'i chriw.) Dw i ddim eisiau gweiddi "Yoni!" mwyach. Wedi'r cwbl, enw anrhydeddus ydy Yoni, diweddar frawd Prif Weinidog Israel a gafodd ei ladd yn ystod y cyrch Entebbe 43 mlynedd yn ôl. Rissy ydy'r enw newydd. Mae o'n dod o risw sydd yn golygu gwiwer yn Japaneg. Trechodd Rissy'r rwystr diweddaraf gyda llaw! Dyma un newydd.

Friday, July 5, 2019

pen-blwydd arall

Pen-blwydd fy mhlentyn ifancaf ydy hi heddiw. Mae o'n 20 oed. Ces i o yn y tŷ yma, yn fy ystafell wely, rhwng y gwely a'r dreser i fod yn fanwl gyda chymorth bydwraig. Mae o wedi tyfu'n ddyn ifanc dymunol gyda chalon dda (er mai ei fam sydd yn dweud.) Mae o'n dal i weithio mewn gwersyll fel staff cynnal a chadw. Dw i'n mynd i grasu cacen (heb glwtyn a llefrith) heddiw, a bydd ei dad yn mynd â hi at ein mab yfory i ddathlu ei ben-blwydd. 

Thursday, July 4, 2019

243 oed

Bydded i America ddychwelyd at Dduw o dano ef sefydlwyd, a thrwyddo ef bendithir.

Pen-blwydd hapus!

Wednesday, July 3, 2019

noson agoriadol

Roedd noson agoriadol Gun, y tŷ bwyta sydd yn arbenigo ar fwyd stryd Japaneaidd yn Okolahoma City. Cafodd nifer o bobl eu gwahodd gan gynnwys fy merch hynaf a baentiodd y murlun. Dwedodd fod popeth yn flasus dros ben. Aeth y perchennog i Japan am gyfnod i ddysgu'r sgil er mwyn darparu blas Japaneaidd dilys. Gobeithio y bydd Gun yn nhŷ bwyta poblogaidd. Mae'r murlun yn edrych yn hyfryd.

Tuesday, July 2, 2019

at ddeintydd

Roedd rhaid i mi fynd at ddeintydd ar frys ddoe; collais ran o'r llenwadau ar gilddant. Ffrind i mi a'r gŵr ydy'r deintydd. Mae o'n fedrus a chlên dros ben. Wedi triniaeth lwyddiannus dilynwyd gyda glanhau, mae fy nannedd mewn cyflwr gwych rŵan, diolch i John a'i gynorthwyydd.