Saturday, June 14, 2008

brysur!


Mi fydd hi'n briodas fy merch wythnos i heddiw. Dw i wedi gorffen gwnio mwy o bethau. Rwan, rhaid i fy merch hyn arall weithio ar ein gwallt ni. (Merch trin gwallt rhan amser ydy hi.) Mi neith hi dorri fy ngwallt a gwallt fy mab ifanca yfory.

Mae hi wedi gwneud gwallt fy merched ifanca i weld pa fath o arddull bydd yn addas iddyn nhw. Mi fydd hi'n brysur iawn cyn y seremoni achos neith hi wallt ei dwy chwaer iau a gwallt y briodferch heb sôn am ei gwallt hi ei hun. O leia fydd ddim rhaid iddi hi wneud fy un i.

3 comments:

asuka said...

syniad call iawn ymarfer trin gwallt pawb yn drwyadl o flaen llaw - gan amla' gwallt a cholur a elliff gymryd gormod o amser ar y "diwrnod mawr" yntê?

asuka said...

ac mae e'n edrych yn bert iawn!

Emma Reese said...

Mae'r merched i gyd wrth eu bodd ac yn edrch ymlaen at y diwrnod mawr. Dw i'n teimlo'n llawer gwell na ôn i yn fy mhriodas fy hun. (Dim pwysau!)