Tuesday, September 29, 2009

plac newydd


Roedd ein 'Ford Windstar' a oedd wedi bod yn ein gwasanaethu dros ddeg mlynedd yn gorfod ymddeol yn ddiweddar. Roedd yn drist ei weld o ym maes parcio 'Ford' lle adawodd fy ngwˆr o am y tro olaf. 

Fy ngwˆr sy'n gyrru'n bennaf 'Ford Explorer' a brynon ni ddyddiau'n ôl . Felly, y fi sy'n gyrru ei 'Ford Focus' bellach. Roedd yna blac eryr arian o flaen y car ond dyma benderfynu cael un newydd. Ac dw i wrth fy modd.

Friday, September 25, 2009

gwers sydyn ar hanes cymru

Diolch i YouTube, ces i wers ddifyr ar hanes Owain Glyndwr. Mae yna wyth yn y gyfres sydyn. Roedd yn haws o lawer deall y sylwedd na drwy ddarllen llyfrau. Wrth gwrs y byddai'r wybodaeth yn help mawr os byddwn i eisiau darllen mwy amdano fo o hyn ymlaen. 

Wednesday, September 23, 2009

peiriant golchi

Dw i'n gwirioni ar ein peiriant golchi newydd ni. Roedd rhaid prynu peiriant newydd wedi i'r un diwethaf dorri er mai dim ond 14 mis oed oedd o. Y modur oedd ar fai a byddai modur newydd wedi costio mwy na pheiriant newydd!

'Front loader' ydy'r peiriant ac mae o'n golchi llawer mwy o ddillad y tro gyda llai o dwr a sebon. Efallau fod o'n beth cyffredin bellach ond hollol chwyldroadol i mi. Weithiau dw i'n edrych ar y peiriant yn gweithio a rhyfeddu at y dechnoleg newydd.

Monday, September 21, 2009

bobotie

Roedd pot lwc ddoe (eto.) Affrica oedd y thema. Ar ôl clywed hanes rhai yn ein heglwys ni a oedd wedi bod yn genhadon yn Affrica am flynyddoedd, caethon ni brydau amrywiol o fwyd Affricanaidd, Mecsicanaidd, Tsieineaidd ac Americanaidd. Fy hoff saig oedd cawl cnau daear gyda digon o lysiau a goginiwyd gan ddynes a oedd yn byw yn Ne Affrica.

Ceisiais fy ngorau glas yn gwneud Bobotie yn ôl rysait ar y we, ond conolig oedd y canlyniad er bod fy ffrindiau trugarog yn dweud fod o'n dda. Fedrwn i ddim dod o hyd i 'chutney' yn Wal-Mart. Byddwn i'n beio ar hynny.

Thursday, September 17, 2009

y lôn wen


Dw i newydd orffen y llyfr hwn gan Kate Roberts a ges i'n anrheg gan Linda ac Idris. Sgrifennodd hi am ugain mlynedd gyntaf ei bywyd yn bennaf, am ei theulu a bro ei mebyd o gwmpas Rhosgadfan. Mae dylanwad ei phrofiadau'n amlwg yn ei nofelau yn enwedig yn 'Te yn y Grug.' Gallai Begw, y prif gymeriad fod yn yr awdures ei hun - hogan ddeallus, fedddylgar a chwilfrydig. Dw i mor falch o gael cyfle i ymweld â Rhosgadfan yn ddiweddar. Medrwn i weld yr olygfa hon yn fy meddwl pan ddarllenwn i ddisgrifiad Roberts:

"O'm blaen mae Sir Fôn ac Afon Menai, Môr Iwerydd yn ymestyn i'r gorwel, Castell Caernarfon yn ymestyn ei drwyn i'r afon a'r dref yn gorff bychan o'r tu ôl iddo."


Monday, September 14, 2009

dana ni


Aeth y siwrnau adref yn ddigon didrafferth oni bai bod yr awyren o Chicago'n gorfod glanio yn Oklahoma City i osgoi storm cyn hedfan yn ôl i Tulsa.

Ces i gymaint o hwyl yn adrodd hanes fy ymweliad â Chymru, ond mae hynny wedi gwneud i mi hiraethu am Gymru'n ddwysach. Diolch o galon i'r bobl glên a wnes eu cyfarfod. Gobeithio ca i fynd i Gymru eto a'u gweld nhw eto cyn bo hir. Diolch hefyd i ddarllenwyr fy mlog!

Sunday, September 13, 2009

caer (9/8/09)



Fe wnaeth Judy, Laura a Bryn fy hebrwng i Gaer yng nghar Laura. Newidiodd y golygfeydd o rai Cymreig i rai Seisnig. Gadawais y darn olaf o Gymru wrth ffarwelio â'r tri yng nghanol y dref fawr yn Lloegr.

Roedd gen i dair awr cyn dal y bws uniongyrchol i'r maes awyr. Roedd hi'n ddiwrnod braf. Dechreuais gerdded o gwmpas y dref. Nifer o hen adeiladau mawr, llu o dwristiaid, Saesneg ym mhob man. Gofynais i ddynes am gyfeiriad yn Saesneg. Ces i ateb cwrtais yn Saesneg.

Es i at yr afon agos, Afon Dyfrdwy. Roedd yna lawer o bobl yn ymlacio ar lan yr afon. Ymunais â nhw a chael bicnic bach wrth edrych ar y cychod ar yr afon a gwrando ar gerddorfa a oedd yn chwarae dros y bobl. Roedd yn braf.

Saturday, September 12, 2009

diwrnod olaf (9/8/09)


Diwrnod olaf yng Nghymru.

Es i i'r cymun Cymraeg am 9 o'r gloch yn Eglwys Crist y Bala sy'n dafliad carreg o dyˆ Judy. Cafodd yr adeilad ei adnewyddu'n hyfryd yn ddiweddar. Y Parchedig Nia Roberts ydy'r ficer a ffrind i Linda ac Idris.

Roeddwn i eisiau mynd i wasanaeth efengylaidd hefyd, ac dyma fynd i adeilad bach yng nghanol y dref. Ar ôl y gwasanaeth Saesneg, clywais ddynes yn fy ngalw i wrth iddi gerdded tuag ata i. Dechreuodd hi siarad Cymraeg yn annisgwyl. Pwy oedd hi ond Sara, ffrind a chydweithwraig Nia ac un hynod o ffeind hefyd! Roedd hi'n fy adnabod yn syth wedi clywed amdana i gan Nia. Digwydd bod yn y Bala'n mynd i'r Eisteddfod oedd hi.

Ar ôl cael cinio o frechdan Siop Spar, reodd yn amser i symud i westy ger maes awyr Manceinion.



Friday, September 11, 2009

llyn celyn (8/8/09)



Aethon ni i Lyn Celyn. Mae o'n fawr ac yn ddistaw.

Gerllaw, neidiodd criw o bobl ifainc i mewn i hanner dwsin o rafftiau un ar ôl y llall i fwynhau rafftio dwr gwyn ar Afon Tryweryn.

Ar ein ffordd yn ôl, stopion ni yn nhy merch Olwen. Roedd yna gwpl o Nottingham sy'n dysgu Cymraeg. Pwy oedd y gwr ond Gareth y mae Jonathan o Sir Dderby yn ei nabod! "Byd bach," wnaethoch chi ddweud?


Thursday, September 10, 2009

rhydydefaid (8/8/09)


Daeth Olwen, ffrind Judy i fynd â fi i Lyn Celyn yn ei char yn y prynhawn. Y hi a'i gwr sy'n rhedeg llety o'r enw Rhydydefaid yn Frongoch ger y Bala.

Aethon ni i'r ffermdy gyntaf. Saif y ty cadarn yng nghanol y fferm. Mae waliau'r ty mor drwchus ac mae'r rhannau o'r ty yn 400 oed! Er bod hi'n brysur gyda gwaith y llety, paratôdd Olwen de Cymreig (a Chymraeg hefyd) gwych i ni. Na châi gwraig gwely a brecwast eistedd i de'n hamddenol yn hir serch hynny. Roedd hi'n gorfod paratoi at westeion newydd, tynnu dillad gwlâu a thaweli o'r lein a hongian rhai wedi'u golchi arni hi. Dyma ei helpu hi gyda phleser.


Wednesday, September 9, 2009

y bala (8/8/09)




Wedi darfod eisteddfota, es i i weld o gwmpas y Bala. Tref fach ddel gyda hen adeiladau diddorol ym mhob man ydy hi.

Gofynnais i un o Siop Spar lle oedd cerflun Thomas Charles. Doedd y ferch ddi-Gymraeg ddim yn gwybod na lle oedd y cerflun na phwy oedd Thomas Charles. (Ces i fraw sydyn yn cofio'r darn o Wythnos yng Nghymru Fydd.) Roedd yna ddwy fam ifanc yn siarad Cymraeg tu allan y siop. Dyma ofyn iddyn nhw a chael y cyfeiriad. Phiw!

Ces i bicnic wrth Lyn Tegid ar ôl gweld ty Thomas Charles wedi 'i droi'n fanc gyda phlaciau i gofio Mary Jones, Tomen y Bala, Coleg y Bala, Ty Michael Jones yn ogystal â hanner dwsin o hen adeiladau o fri.

Rhaid prynu anrhegion i'r teulu. Dyma fynd i mewn i siop fach. Prynais ddau grys Cymru i'r gwr a'r mab hyna. (Sôn am ddiwydiant twristiaeth Cymru wedi cael haf llwyddiannus eleni!) Roedd perchenogion y siop wrth eu boddau'n clywed un o Oklahoma'n siarad Cymraeg.


Tuesday, September 8, 2009

dydd gwener (7/8/09)










Fy niwnord olaf yn yr Eisteddfod. I Faes D am gyfarfod gyda Dogfael es i. Roedd yn wych ei weld o unwaith eto. Ar ôl sgwrsio am hyn a'r llall am sbel, aethon ni'n ffyrdd gwahanol tan seremoni Gorsedd y Beirdd.

Pwy sy'n penderfynu enwau'r aelodau newydd, tybed? Roeddwn i'n meddwl bod yr enw rodwyd i Elfyn Llwyd, cadeirydd y pwyllgor gwaith yn un dda, sef Elfyn Llwyd y Llwyfan (os cofia i'n iawn.)

Treuliais y prynhawn cyfan yn y Pafiliwn yn gwylio'r perffomiadau amrywiol o unawdau a chorau i ddawnsio gwerin. Yr hyn wnaeth fy nharo i oedd y ffaith bod gan Gymry ddoniau anhygoel. Gallai unrhyw un ohonyn nhw berffomio gyda Rhydian ac Only Men Aloud ar y llwyfan.

Er gwaetha'r siom dros y gadair wag, mwnheuais y seremoni gadeirio a ganlyniodd. Rhaglen gofiadwy ar fy niwrnod olaf.


Monday, September 7, 2009

dydd iau (6/8/09)

Cyn mynd i'r cyngerdd am 8 o'r gloch, ces i ddiwrnod llawn arall ar y maes o glywed band Sipsiwn, ymuno â'r dawnsio gwerin, clywed côr merched neu ddau yn y Pafiliwn, i fwyta pastai Gymreig a brynwyd ym marchnad y ffermwyr. Des i ar draws Geraint a oedd fy nhiwtor yn nghwrs Cymraeg yn Iowa'r llynedd, ac dyma gael sgwrs sydyn.

Roeddwn i eisiau clywed côr y dysgwyr ym Maes D ond roedd hi mor boeth yno fel es i'n ôl i'r llety am y tro heb eu clywed nhw, gwaetha'r modd. Roedd hi'n wych gweld Nia eto yn y babell beth bynnag.

Roedd rhaid gyrru neges sydyn at y teulu i ddweud bod eu mam yn dal i fyw. Dyma fynd i lyfrgell fach leol. Dw i ddim yn hoffi PC. Teulu MAC ydyn ni. O, na, dydy o ddim yn gweithio ac dim ond 15 munud sy gen i. Diolch i'r Cymro Cymraeg bach rhyw 10 oed wrth fy ochr a ddwedodd wrtha i am glicio dwbl. Cynnigodd sedd gyfforddus i mi hyd yn oed.

Sunday, September 6, 2009

prynhawn mercher (5/8/09)


Yn y maes brynhawn Mercher casglodd y Cymry a rhai o dras Gymreig sy'n byw tu allan i Gymru. Ces i fynd gyda Linda ac Idris i De Bach drefnwyd gan Undeb Cymru a'r Byd. Roedd yna ryw 80 o bobl o 20 gwlad gan gynnwys Twrci a Venezuela. Gwych oedd clywed nhw'n siarad Cymraeg.

Y criw o Batagonia oedd yno hefyd. Roedd yn brofiad unigryw i mi gyfarfod Vincent Evans a'r lleill. Yr unig iaith cyffredin rhyngddon ni oedd y Gymraeg gan nad ydyn nhw'n siarad Saesneg ac nad ydw i'n medru Sbaeneg.

I mewn i'r Pafiliwn am y seremoni fach yn croesawu'r 80 dilynwyd gan seremoni'r Fedal Rhyddiaith. Roedd yn braf gweld merch ifanc leol, Siân M. Dafydd yn enillydd. Roeddwn i wrth fy modd yn gweiddi "heddwch" gyda'r gynulleiddfa a hefyd canu Hen Wlad ar goedd.

Yna daeth amser i ffarwelio â Linda ac Idris. Roedd yn hyfryd eu cyfarfod a threulio dau ddiwrnod gyda nhw. Aethon nhw i'r dde tuag at y maes parcio a finnau i'r chwith ar y llwybr plastig coch a thros Bont Tryweryn at fy llety.

Saturday, September 5, 2009

maes d (5/8/09)





Gosodwyd llwybr plastig coch ar y cae i'r maes. Hwylus iawn! Byddwn i'n cerdded arno bob dydd. Death llu o bobl gweddill o'r wythnos wrth i'r tywydd wella. Dacw fan swyddfa'r post lle gyrrais gardiau post at ffrindiau ynddi hi. Ac dacw Garry Owen o flaen camera teledu.

Maes D - Trefnwyd cyfarfod bach gyda ffrindiau. Es i a Linda ac Idris yno i weld Corndolly, Neil, Rosy, Les, Jenny. Roedd yn braf gweld y ffrindiau rhyngrwyd. Tra oeddwn i'n sôn am yr ymgeisydd ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn yn y babell, pwy oedd tu ôl i ni ond Dominic Gilbert ei hun! Dyma ddweud wrtho fo mod i wedi ei weld o ar y teledu'r noson gynt a dechrau sgwrsio. Hogyn clên a dawnus ar y naw ydy o. Er na wnaeth o ennill, fod o wedi dysgu'n rhugl mewn byr amser.

Friday, September 4, 2009

judy a'i phobol


Mae Judy'n byw mewn ty teras twt sy'n agos iawn at y maes. Byddwn i'n cerdded i'r maes ac yn ôl am bedwar diwrnod yn ystod yr Eisteddfod. Saesnes ffeind iawn ydy Judy. Mwynheuais ei chwmni'n fawr yn ogystal â'i chyfleusterau. (Yr ystafell gyda'r ffenestr gaeëdig oedd fy un i.)

Roedd yna hanner dwsin o bobl a oedd yn cystadlu'n aros yno. Ann Davies a enillodd y drydedd wobr yn Unawd Soprano oedd un ohonyn nhw. Yn anffodus, methais weld ei pherfformiad ar y llwyfan ond clywais hi'n ymarfer yn ei hystafell un bore. O, roedd hi'n hyfryd! Dysgais ymadrodd ganddi hi hefyd: sut âth e? (un o Gaerfyrddin ydy hi!) Hyn pan oeddwn i eisiau gofyn iddi "how did it go?"

George oedd un arall. Aeth ei gôr, Côr Meibion y Fflint yn drydedd hefyd. Roedd o'n eistedd ar y soffa'n gwilio'r teledu'n aml. byddwn i'n cael sgwrs sydyn gyda fo pryd bynnag byddwn i'n mynd drwy'r ystafell fwyta i'r gegin.

Bryn a'i fab Iwan, cymdogion Judy sy'n ei helpu hi o gwmpas y ty bob dydd . Y Cymry Cymraeg clên ydyn nhw hefyd. Aethon ni i gyd am dro ar hyd Afon Tryweryn un prynhawn.

Thursday, September 3, 2009

y pafiliwn (4/8/09)


Ces i anrhydedd o gyfarfod Haf Morris, enillydd Medal T.H. Parry Williams, ffrind i Gwilym ac un glên iawn. Roedd yn brofiad anhygoel i eistedd yn y Pafiliwm am y tro cynta a gweld y seremoni gyflwynwyd gan Dei Tomos. Mae'r Cymry'n gwybod sut i anrhydeddu rhywun sy'n deilwng. Fues i erioed mewn seremoni felly. Ces i fy mesmereiddio ganddi hi.

Roeddwn i'n edrych ymalen at Gofio T.Llew Jones yn y Babell Len yn y prynhawn. Roedd yn braf gweld cymaint o blant ac oedolion gasglodd i'w gofio fo, ond rhaid cyfaddef mod i wedi cael fy siomi. Roedd adrodd cerddi T.Llew gan blant yn wych ond roeddwn i'n disgwyl mwy nag araith ar ei fywyd a dweud y gwir.

Wednesday, September 2, 2009

yr eisteddfod! (4/8/09)



Mae hi'n bwrw glaw. Mae'n anodd ffarwelio â Carol a Martin wedi i mi aros yn eu llety am ddeg noson a dod i'w nabod nhw. Rhoiodd Carol dafell drwchus o'i Bara Brith i mi. Dyma Gwilym gyda ei ddau ffrind ddaeth i roi llift i mi i'r Bala.

I ffwrdd â ni i'r Eisteddfod drwy'r ardaloedd gwyrdd, prydferth. Betws-y-Coed, dacw'r Goets Fawr yn ymyl y ffordd! "Wnaethoch chi godi'n fore?" gofynodd Alwena. "Codi'n gynnar ydy codi'n fore," esboniodd Gwilym wedi clywed y saib gynna i.

Y Maes. Y Pafiliwn. Y stondinau. Y mwd. Mae glaw Llanberis wedi'n dilyn ni i'r Bala. Dw i'n cerdded o gwmpas y maes yn rhyfeddu at bob dim. Dyma stondin telynau. Adawodd merch glên i mi drio canu un ohonyn nhw. Dyma Aran Jones o Saysomethinginwelsh yn stondin Cymuned.


Tuesday, September 1, 2009

ffarwel i lanberis (3/8/09)



Mae hi wedi bod yn hyfryd aros yn Llanberis yn cyfarfod y bobl leol glên a gweld y golygfeydd anhygoel. Wrth gwrs mod i'n awyddus mynd i'r Eisteddfod yfory ond bydda i'n colli Llanberis hefyd.

Ces i helpu Eira bore ma eto. Yna, penderfynes i gerdded o gwmpas y dref i ddweud ffarwel â'r bobl a'r lle er gwaethaf y glaw mân - y Ganolfan Groeso, Siop y Mêl, yr arddangosfa luniau, Siop Spar... Dw i wedi prynu brechdannau, ffrwythau, iogwrt a ballu bron bob dydd yn Siop Spar a dod yn gyfarwydd â'r gweithwyr yno. "Ti isio bag?" - y cwestiwn faswn i'n disgwyl ei glywed bob tro.

Cerddes i ar y llwybr arall ar hyd Llyn Padarn i'r Gorllewin drwy'r twnnel nes cyrraedd diwedd y llyn. Des i'n ôl i'r llety wedi blino'n braf.