Wednesday, September 23, 2009

peiriant golchi

Dw i'n gwirioni ar ein peiriant golchi newydd ni. Roedd rhaid prynu peiriant newydd wedi i'r un diwethaf dorri er mai dim ond 14 mis oed oedd o. Y modur oedd ar fai a byddai modur newydd wedi costio mwy na pheiriant newydd!

'Front loader' ydy'r peiriant ac mae o'n golchi llawer mwy o ddillad y tro gyda llai o dwr a sebon. Efallau fod o'n beth cyffredin bellach ond hollol chwyldroadol i mi. Weithiau dw i'n edrych ar y peiriant yn gweithio a rhyfeddu at y dechnoleg newydd.

2 comments:

Dyfed said...

Gyda llai o ddwr a sebon bydd yn rhatach i'w ddefnyddio ac o fudd i'r amgylchedd! Ai dim ond dwr oer y mae'n ei ddefnyddio? Dyna'r periannau sydd ar gael yn siopau Cymru erbyn hyn. Unwaith eto mae hyn yn helpu'r amgychedd.

Emma Reese said...

Diolch i ti Dyfed am alw. Mae gynnoch chi ddewis o ddwr oer, cynnes a phoeth. Mae'r peiriant wrthi'n golchi wrth i mi sgwennu hyn!