Saturday, September 12, 2009

diwrnod olaf (9/8/09)


Diwrnod olaf yng Nghymru.

Es i i'r cymun Cymraeg am 9 o'r gloch yn Eglwys Crist y Bala sy'n dafliad carreg o dyˆ Judy. Cafodd yr adeilad ei adnewyddu'n hyfryd yn ddiweddar. Y Parchedig Nia Roberts ydy'r ficer a ffrind i Linda ac Idris.

Roeddwn i eisiau mynd i wasanaeth efengylaidd hefyd, ac dyma fynd i adeilad bach yng nghanol y dref. Ar ôl y gwasanaeth Saesneg, clywais ddynes yn fy ngalw i wrth iddi gerdded tuag ata i. Dechreuodd hi siarad Cymraeg yn annisgwyl. Pwy oedd hi ond Sara, ffrind a chydweithwraig Nia ac un hynod o ffeind hefyd! Roedd hi'n fy adnabod yn syth wedi clywed amdana i gan Nia. Digwydd bod yn y Bala'n mynd i'r Eisteddfod oedd hi.

Ar ôl cael cinio o frechdan Siop Spar, reodd yn amser i symud i westy ger maes awyr Manceinion.



2 comments:

Linda said...

Yn falch iawn dy fod ti wedi cyfarfod Nia , ac wedi bod mewn gwasanaeth yn Eglwys y Bala .Mae'n eglwys hardd iawn.

Emma Reese said...

Ydy wir. Ac mae'r seddau mor gyffordus!