Monday, September 14, 2009

dana ni


Aeth y siwrnau adref yn ddigon didrafferth oni bai bod yr awyren o Chicago'n gorfod glanio yn Oklahoma City i osgoi storm cyn hedfan yn ôl i Tulsa.

Ces i gymaint o hwyl yn adrodd hanes fy ymweliad â Chymru, ond mae hynny wedi gwneud i mi hiraethu am Gymru'n ddwysach. Diolch o galon i'r bobl glên a wnes eu cyfarfod. Gobeithio ca i fynd i Gymru eto a'u gweld nhw eto cyn bo hir. Diolch hefyd i ddarllenwyr fy mlog!

6 comments:

Siân said...

Dw i wedi mwynhau darllen hanes dy ymweliad di â Chymru.
Croeso i ti ddod i wneud gwaith tŷ yn fy nhŷ i unrhyw bryd!

Emma Reese said...

Diolch i ti Siân. A lle wyt ti'n byw?

Linda said...

Wedi mwynhau darllen dy hanes ....yn codi ychydig o hiraeth arnaf inna hefyd!
Yn hoffi'r crysau yn fawr iawn . Dewis da.

Emma Reese said...

Diolch i titha, Linda.

Corndolly said...

Dw i wedi mwynhau clywed am dy anturiau yng Nghymru. Dw i'n teimlo eithaf diog - Ti wedi gwneud cymaint mewn amser byr. Gwela i ti unwaith eto'r tro nesaf !

Emma Reese said...

Ac i titha, Corndolly!