Saturday, September 5, 2009

maes d (5/8/09)





Gosodwyd llwybr plastig coch ar y cae i'r maes. Hwylus iawn! Byddwn i'n cerdded arno bob dydd. Death llu o bobl gweddill o'r wythnos wrth i'r tywydd wella. Dacw fan swyddfa'r post lle gyrrais gardiau post at ffrindiau ynddi hi. Ac dacw Garry Owen o flaen camera teledu.

Maes D - Trefnwyd cyfarfod bach gyda ffrindiau. Es i a Linda ac Idris yno i weld Corndolly, Neil, Rosy, Les, Jenny. Roedd yn braf gweld y ffrindiau rhyngrwyd. Tra oeddwn i'n sôn am yr ymgeisydd ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn yn y babell, pwy oedd tu ôl i ni ond Dominic Gilbert ei hun! Dyma ddweud wrtho fo mod i wedi ei weld o ar y teledu'r noson gynt a dechrau sgwrsio. Hogyn clên a dawnus ar y naw ydy o. Er na wnaeth o ennill, fod o wedi dysgu'n rhugl mewn byr amser.

3 comments:

Corndolly said...

Roedd hi'n wych dy gyfarfod prynhawn Fercher, ond doedd 'na ddim digon o amser i siarad am bopeth, yn anffodus. Tro nesaf efallai !

Emma Reese said...

Wnest ti fwynhau siarad efo Dominic?

Corndolly said...

Do! yn fawr iawn. Mae'n anodd credu ei fod o wedi dysgu'r iaith mor gyflym. Ond dyna'r problem, yn fy marn, am y cystadleuaeth - mae pawb yn haeddu ennill !