Friday, September 4, 2009

judy a'i phobol


Mae Judy'n byw mewn ty teras twt sy'n agos iawn at y maes. Byddwn i'n cerdded i'r maes ac yn ôl am bedwar diwrnod yn ystod yr Eisteddfod. Saesnes ffeind iawn ydy Judy. Mwynheuais ei chwmni'n fawr yn ogystal â'i chyfleusterau. (Yr ystafell gyda'r ffenestr gaeëdig oedd fy un i.)

Roedd yna hanner dwsin o bobl a oedd yn cystadlu'n aros yno. Ann Davies a enillodd y drydedd wobr yn Unawd Soprano oedd un ohonyn nhw. Yn anffodus, methais weld ei pherfformiad ar y llwyfan ond clywais hi'n ymarfer yn ei hystafell un bore. O, roedd hi'n hyfryd! Dysgais ymadrodd ganddi hi hefyd: sut âth e? (un o Gaerfyrddin ydy hi!) Hyn pan oeddwn i eisiau gofyn iddi "how did it go?"

George oedd un arall. Aeth ei gôr, Côr Meibion y Fflint yn drydedd hefyd. Roedd o'n eistedd ar y soffa'n gwilio'r teledu'n aml. byddwn i'n cael sgwrs sydyn gyda fo pryd bynnag byddwn i'n mynd drwy'r ystafell fwyta i'r gegin.

Bryn a'i fab Iwan, cymdogion Judy sy'n ei helpu hi o gwmpas y ty bob dydd . Y Cymry Cymraeg clên ydyn nhw hefyd. Aethon ni i gyd am dro ar hyd Afon Tryweryn un prynhawn.

2 comments:

Corndolly said...

Hmm, Dw i'n meddwl bod aros mewn gwesty yn ardal yr Eisteddfod yn syniad da iawn ! Efallai dylwn i wneud yr un peth y flwyddyn nesaf, ond rhaid i mi benderfynu'n fuan.

Emma Reese said...

Ond rhaid i ti ystyried un anfantais, hynny ydy Maes B a'r cyngherddau'r nos ar draws y dref. Mi ôn i'n gorfod defnyddio plygiau clustiau trwy'r nos.