Friday, October 30, 2009

lledota

Darllenais yng nghylchgrawn Llafar Gwlad am ledota, sef y dull o ddal lledod gyda'r traed yn ardal Porthmadog flynyddoedd yn ôl. Byddwch chi'n cerdded trwy'r dwr tuag at un sy'n gorffwys mewn tywod, (rhaid gwylio'n graff) a'i throedio! Diddorol ar y naw!

Mae gynnon ni ddull arall o ddal pysgod yn Oklahoma a elwir "noodling," sef y dull o ddal "Catfish" gyda'r dwylo. Dw i erioed wedi gweld neb yn "noodle" ond clywais y gallai hynny fod yn beryglus. 

2 comments:

neil wyn said...

Rhuthrais am y geiriadur i ddarganfod ystyr y gair lledota heb lwyddiant, ond wedyn porais yn graff trwy 'index' Llyfr Natur Iolo a ddes i hyd i 'Lleden' ('chwithig' a 'mwd'):-) Gallaf ddychmygu'r gweithred o ledota rwan, tybed os o fan'na doth yr enw 'lleden chwithig'!!

Emma Reese said...

"Ein gair ni,' meddai. Felly does ryfedd nad ydy o mewn geiriadur. Maen nhw'n dweud mai ardal afon Ddwyryd a Borth y Gest oedd yr ardaloedd o ledota.