Monday, December 7, 2009

coeden nadolig


Dan ni ar ei hôl hi eleni eto. Mae'n coeden Nadolig blastig ni wedi colli ei bôn, felly roedd rhaid dyfeisio. Yn y diwedd gwnaeth cadair y tro. Mae'r goeden yn sefyll yn gadarn o leiaf. Roedd y plant iau wrthi'n ei haddurno heno tra oedd corau ysgol Glan Clwyd yn canu yn y cefndir. Mae yna anrhegion wedi'u lapio'n barod. Byddan nhw o dan y goeden nes ymlaen.

Mae'r tywydd wedi troi'n aeafol yn ddiweddar o'r diwedd a chyneuon ni dân cyntaf yn y llosgwr logiau. Mae'r Nadolig ar y trothwy.

4 comments:

Linda said...

Hyfryd iawn . Ninnau hefyd wedi bod yn gwrando ar garolau corau Glan Clwyd. Yn hoff iawn o lun y mis.

Emma Reese said...

A diolch i ti am y CD!

neil wyn said...

Wnaethon ni ildio i bwysau go drwm dros y penwythnos a mynd amdani i godi'r coeden hefyd. Dwi ddim yn gallu meddwl am y dolig tan ar ôl i benblwydd Jill ar y nawfed o Ragfyr, felly fel arfer dyni'n aros tan y degfed i godi'r goeden, ond rhaid i mi gyfadde mae'r lolfa'n edrych reit glud efo'r coeden wedi eu goleuo.

Emma Reese said...

Penblwydd hapus i Jill felly! Coeden go iawn sy gynnoch chi? Clywes i fod 'na brinder coed Nadolig ym Mhrydain eleni.

Roedden ni'n arfer codi'n un ni toc ar ôl Gwyl Ddiolchgarwch nes i fy merch hynaf adael cartref.