Sunday, April 11, 2010

the sound of music

Treuliais i ynghyd â'r teulu'r pnawn 'ma'n gwylio 'the Sound of Music" am y tro cyntaf ers amser (am y tro cyntaf un i'r ddau blentyn ifancaf.) Mae'r caneuon i gyd yn ardderchog a bythgofiadwy heb sôn am y golygfeydd godidog a'r stori ddifyr. Roedd yn DVD a wnaethpwyd i ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed. Diddorol oedd gweld gweddau diweddaraf Julie Andrews a'r actorion eraill a chlywed hanes Maria von Trapp go iawn. Hon ydy un o'r ffilmiau gorau wedi'r cwbl.

2 comments:

neil wyn said...

Digwydd bod wnaethon ni wylio'r ffilm dros y Pasg hefyd (er mae'r merch wedi ei gweld hi cwpl o weithiau o flaen. Does dim byd gwell 'na ffilm teuleuol gyda stori da weithiau nagoes!

Emma Reese said...

Cytuno'n llwyr. Mae'r caneuon yn dal i atseinio yn fy ymennydd.