Dw i wedi gorffen yr wyth gwers; maen nhw'n ardderchog. Maen nhw'n gwneud i chi siarad a chofio geiriau newydd drwy ailadrodd tro ar ôl tro. Mae Eidaleg y ddau (dyn a gwraig) yn swnio'n wych hefyd. Bellach dw i'n medru dweud "che cosa Lei vorrebbe mangiare?" (beth hoffech chi ei fwyta?) ac yn y blaen.
Rŵan, y cwestiwn ydy, beth ddylwn i ei wneud nesa? Mae yna 90 o wersi i gyd gan Pumsleur ac maen nhw'n costio cannoedd o ddoleri. Dw i ddim am wario cymaint o bres pa mor hyfryd bynnag mae'r cwrs. Os oes gynnoch chi syniad, gadewch i mi wybod. (Neil, beth mae dy ffrind yn ei ddefnyddio?)
2 comments:
Wna i ofyn fy ffrind pa gwrs a ddilynodd, dwi'n cofio fo brynu crynoddisgiau o rywle. Dydy o ddim yn astudio Eidaleg mewn dosbarth bellach, er mae o'n ymdrechu cadw'r hyn ei fod wedi dysgu'n barod, hwyl, Neil
Wedi holi o gwmpas, penderfynais i drio Assimil. Newydd archebu drwy Amazon ($33, cludiant yn rhad ac am ddim.)
Post a Comment